Sem Benelli | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Awst 1877 ![]() Prato ![]() |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1949 ![]() Zoagli ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, libretydd, gwleidydd ![]() |
Swydd | aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal ![]() |
Adnabyddus am | La cena delle beffe ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol yr Eidal, Plaid Ffasgaidd Genedlaethol ![]() |
Roedd Sem Benelli (10 Awst, 1877 - 18 Rhagfyr, 1949) yn fardd, ysgrifennwr a dramodydd Eidalaidd oedd hefyd yn, awdur testunau ar gyfer y theatr a sgriptiau sinema. Roedd hefyd yn awdur libreto opera.[1]
Ganwyd Benelli yn Filettole yn blentyn i Raffaello Benelli, crefftwyr tlawd, a Giovacchina (née Borri) ei wraig. Mynychodd ysgol y Tadau Piarist yn Fflorens ond bu’n rhaid iddo dorri ar draws ei astudiaethau oherwydd marwolaeth gynamserol ei dad.[1]
Ar ôl profiad byr fel newyddiadurwr, trodd at lenyddiaeth fel un hunan dysgedig. Ym 1908, ysgrifennodd ei gomedi gyntaf, La Tìgnola.[2] Cafodd llwyddiant mawr y flwyddyn ganlynol gyda'i ddrama La cena delle beffe yn y Teatro Arigentina yn Rhufain. Ym 1910 cafodd llwyddiant pellach gyda'i ddrama trasiedi L'amore dei tre re, a defnyddiodd ar gyfer libreto opera i Italo Montemezzi a lwyfannwyd ym 1913.[3] Ym 1911 cyhoeddodd Il mantellaccio e Rosmunda, ac ym 1913 La Gorgona trowyd y ddwy ddrama hyn yn sgriptiau ar gyfer ffilmiau o'r un enw a ymddangosodd yn y sinemâu ym 1915 a 1942. Ym 1915 cyhoeddodd Le nozze dei centauri. Ym 1913 cyfansoddodd gerdd symffonig er anrhydedd Giuseppe Verdi wedi'i gosod i gerddoriaeth gan Francesco Cilea a'i pherfformio yn Theatr Carlo Felice yn Genova, dinas yr oedd gan Verdi cysylltiad agos a hi.
Cymerodd ran yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei glwyfo a'i addurno â medal arian ddwywaith. Ar noson 31 Hydref 1918 roedd yn rhan o'r criw a gludodd Raffaele Paolucci a Raffaele Rossetti i borthladd Pola. Ar doriad y wawr suddodd y ddau Raffaele y Viribus Unitis un o longau pwysicaf ymerodraeth Awstria. Benelli oedd y milwr Eidalaidd cyntaf i gyhoeddi rhyddhau'r porthladd o ganlyniad i'r suddo.
Ar ôl y rhyfel cafodd La cena delle beffe llwyddiant mawr ar Broadway, Efrog Newydd ym 1919 o dan y teitl The Jest, gyda Lionel a John Barrymore yn serennu ac ym Mharis gyda Sarah Bernhardt yn serennu.[4]
Ym 1924 addasodd ei ddrama gynnar yn libreto i opera gan Umberto Giordano o dan yr un teitl La cena delle beffe. [5]
Rhwng y ddau ryfel byd trodd ei law at gomedi gan gyhoeddi Adamo ed Eva (1933), Madre Regina ed Eroi (1934) a Caterina Sforza, (1938).
Ar ôl gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei ethol yn ddirprwy Fflorens i Senedd yr Eidal ar y rhestr Ryddfrydol ym 1919.[6] Ar gais Mussolini, fe aeth ar y rhestr genedlaethol ar gyfer deddfwrfa XXVII (1924-29). Yn fuan wedyn torrodd ei gysylltiad â'r Ffasgwyr ar ôl i'r gwleidydd sosialaidd Giacomo Matteotti gael ei lofruddio.[7] Ym 1925 roedd ymhlith llofnodwyr y Maniffesto o ddeallusion gwrth ffasgaidd, a luniwyd gan Benedetto Croce. Ym 1933 rhoddodd y weinyddiaeth waharddiad ar bob cwmni dramatig amatur rhag perfformio gweithiau Benelli, ar amheuaeth eu bod yn wrth ffasgaidd ac "yn groes i feini prawf addysgol a moesol" ffasgaeth.
Er gwaethaf ei wrthwynebiad i Mussolini gwirfoddolodd i fod yn rhan o gyrch yr Eidal ar Ethiopia rhwng 1935 a 1936 gan ysgrifennu llyfr am ei brofiadau Io in Affrica (1936).[8] Er hynny nid oedd Mussolini yn fodlon maddau iddo. Rhoddwyd caniatâd iddo ail afael ar ei ysgrifennu cafodd ei ddrama L'elefante (1937) ei sensro'n drom a danfonodd yr heddlu tyrfaoedd i darfu ar noson agoriadol ei gomedi Orchidea (1938).
Ceisiodd Benelli ymadael a'r Eidal ond diarddelwyd ei drwydded deithio i'w rhwystro rhag gwneud. Ond o weld y perygl o gynnydd yn wrthwynebiad Ffasgwyr yr Eidal a gwrthwynebiad llymach yr Almaenwyr oedd a dylanwad cynyddol dros lywodraeth yr Eidal penderfynodd ffoi yn anghyfreithiol. Gyda chymorth gwrthsafwyr Milan llwyddodd cyrraedd y Swistir ym 1944, lle arhosodd yn alltud hyd gwymp Mussolini.[9]
Bu Sem Benelli a'i wraig Stefania yn rhieni i'r newyddiadurwr, actor a dramodydd Eidaleg Sennuccio Benelli.
Ym 1914 adeiladodd Benelli castell ar arfordir môr Liguria yn ardal Zoagli, yn y Riviera. Ar ôl ddychwelyd i'r Eidal ar ôl cwymp y gyfundrefn Ffasgaidd ymddeolodd yno. Bu farw yn ei gastell yn 72 mlwydd oed.[1] Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghlasordy San Domenico, Prato