Y morthwyl a'r cryman, arwyddlun Sendero Luminoso. | |
Enghraifft o'r canlynol | communist party, mudiad terfysgol |
---|---|
Idioleg | Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth, comiwnyddiaeth, anti-capitalism, anti-revisionism, Meddwl Gonzalo, sosialaeth chwyldroadol, Seciwlariaeth, social conservatism |
Daeth i ben | Mehefin 2018 |
Label brodorol | Partido Comunista del Perú — Sendero Luminoso |
Dechrau/Sefydlu | 1969 |
Olynwyd gan | Militarized Communist Party of Peru |
Sylfaenydd | Abimael Guzmán, Augusta La Torre |
Aelod o'r canlynol | International Communist League, Revolutionary Internationalist Movement |
Enw brodorol | Partido Comunista del Perú — Sendero Luminoso |
Gwladwriaeth | Periw |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad chwyldroadol herwfilwrol ym Mheriw yw Sendero Luminoso (Sbaeneg am "[y] Llwybr Disglair"),[1] yn swyddogol Plaid Gomiwnyddol Periw (Partido Comunista del Perú, PCP) sydd yn arddel Marcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth a Pensamiento Gonzalo ("Meddwl Gonzalo"). Cyfeirir ati yn aml gan ysgolheigion fel Plaid Gomiwnyddol Periw – Sendero Luminoso (PCP-SL) i'w gwahaniaethu oddi ar bleidiau comiwnyddol eraill yn y wlad. Fe'i sefydlwyd gan Abimael Guzmán ym 1969, a lansiodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth Periw ym 1980, gwrthdaro sydd yn parhau ar raddfa isel hyd heddiw.
Athro ym Mhrifysgol Genedlaethol San Cristóbal del Huamanga, yn Ayacucho, oedd Guzmán, a ddaeth i'r amlwg fel arweinydd ar garfan o Faöyddion a oedd yn cynnal trafodaethau wythnosol rhwng myfyrwyr ac academyddion ynglŷn â sut i ddwyn ymwybyddiaeth o ddosbarth i feddwl y gwerinwyr ym Mheriw. Datblygodd y cyfarfodydd yn fudiad dan yr enw Plaid Gomiwnyddol Periw—yn wahanol i'r blaid gomiwnyddol swyddogol—a honnodd Guzmán ei fod yn olynydd i Marx, Lenin, a Mao. Gadawodd Guzmán y brifysgol yn Ayacucho yng nghanol y 1970au, wrth i'w blaid ddatblygu'n fyddin herwfilwrol. Mabwysiadwyd yr enw ar sail disgrifiad José Carlos Mariátegui o Farcsiaeth, sendero luminoso al futuro ("llwybr disglair i'r dyfodol"). Aeth Guzmán a'i ddilynwyr, y Senderistas, ar herw yn y cefn gwlad, i gynllunio'u gwrthryfel yn ddirgel. Datblygodd Sendero Luminoso yn fudiad herwfilwrol hynod o ddisgybledig, ffanatigaidd, ac hierarchaidd, ac yn llym yn ei ymgyrchoedd yn erbyn yr awdurdodau, yr adain chwith a oedd yn gwyro oddi ar Faoaeth, ac unrhyw un arall a ystyriwyd yn rhan o'r fwrdeisiaeth neu yn elyn i'r chwyldro.
Cyhoeddwyd dechrau'r gwrthryfel yn ystod etholiad cyffredinol Mai 1980, ac un o weithredoedd cychwynnol y Senderistas oedd llosgi blychau pleidleisio. Ymhen fawr o dro, llwyddasai Sendero Luminoso i gipio rhannau mawr o diriogaeth Periw, a throdd yn wrthdaro gwaedlyd gan gynnwys terfysgaeth yn erbyn y bobl gan y Senderistas a lluoedd diogelwch y llywodraeth. Ar y cychwyn cafodd Guzmán gefnogaeth nifer o'r gwerinwyr, am iddo ddisodli a lladd nifer o swyddogion llygredig a gormesol. Yn y pen draw, trodd trwch y boblogaeth yn erbyn Sendero Luminoso wrth i Guzmán orfodi trefn biwritanaidd newydd yn ei diriogaeth, gan gynnwys dirwest gorfodol. Mae'r mudiad yn gyfrifol am nifer o droseddau ac ymosodiadau terfysgol, gan gynnwys cyflafan Lucanamarca ym 1983 a ffrwydrad Lima ym 1992. Yn ôl comisiwn llywodraethol yn 2003, Sendero Luminoso sydd ar fai am 54 y cant o'r 50,000–70,000 o farwolaethau treisiol yn y rhyfel yn y cyfnod o 1980 i 2003.[2]
Cafwyd hyd i Guzmán gan lu gwrth-derfysgaeth ym 1992, a fe'i olynwyd yn arweinydd y Sendero luminoso gan Óscar Ramírez. Cafodd Ramírez ei arestio ym 1999, ac enciliodd olion Sendero Luminoso i Ddyffryn Afonydd Apurímac, Ene a Mantaro (VRAEM). Bu cyfnod o heddwch i raddau nes i'r Senderistas ailddechrau'r gwrthryfel yn 2002.