Senedd Ieuenctid Cymru

Logo Senedd Ieuenctid Cymru

Corff etholedig o 60 o aelodau rhwng 11 ac 18 oed yw Senedd Ieuenctid Cymru. Mae 40 o’r aelodau wedi’u hethol drwy bleidlais gan etholaethau sy’n cyfateb i rai Senedd Cymru, ac 20 aelod arall wedi’u hethol gan bobl ifanc o sefydliadau partner, gyda Tros Gynnal Plant, Barnardos Cymru, Youth Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn eu plith. Mae aelodau’r Senedd Ieuenctid yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd.[1]

Gwnaed y penderfyniad i sefydlu’r Senedd Ieuenctid gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Hydref 2016 mewn ymateb i alw gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol (gyda chefnogaeth Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru). Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, lawnsiodd yr ymgyrch i sefydlu’r Senedd, ac ymgynghorwyd â thros 5,000 o bobl ifanc er mwyn penderfynu ar ei nod, ei aelodaeth a’i waith.[2]

Cynhaliwyd etholiad cyntaf y Senedd Ieuenctid rhwng 5 a 25 Tachwedd 2018 gyda chyfanswm o dros 480 yn ymgeisio ar draws y 40 etholaeth. Roedd Senedd Ieuenctid Cymru yn torri tir newydd trwy fod yn y Senedd Ieuenctid cyntaf i gael ei ethol yn uniongyrchol yn electoneg.[3]

Daeth y Senedd ynghyd am y tro cyntaf yn Siambr y Cynulliad yng Nghaerdydd ar 23 Chwefror 2019.[4]

Rhwng 2002 a 2014 roedd corff tebyg o'r enw 'Draig Ffynci', elusen oedd yn rhoi llais i bobl ifanc er mwyn cyflawni eu hawliau o dan erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant. Diddymwyd eu grant gan Lywodraeth Cymru yn 2014 a daeth y corff i ben yn fuan wedyn.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "'Cyhoeddi Aelodau Cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru'". BBC Cymru Fyw. 5 Rhagfyr 2018.
  2. "Senedd Ieuenctid Cymru: Pwy a Beth?". Senedd Ieuenctid Cymru.
  3. "'Agor y bleidlais i ethol Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru'". BBC Cymru Fyw. 5 Tachwedd 2018.
  4. "Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf". BBC Cymru Fyw. 23 Chwefror 2019.
  5. Draig Ffynci: torri cyllideb yn achosi anhapusrwydd , BBC Cymru Fyw, 11 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2019.