Senedd Sri Lanca

Senedd Sri Lanka
Mathsenedd, deddfwrfa unsiambr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sri Lanca Sri Lanca

Senedd un siambr gyda 225 aelod a etholir dan system o gynrychiolaeth gyfrannol am gyfnod o che mlynedd yw Senedd Sri Lanca, senedd ddeddfwriaethol Sri Lanca yn ne Asia. Mae'r Senedd yn cadw'r hawl i wneud deddfau iddi ei hun ac yn seiliedig ar Senedd y Deyrnas Unedig. Mae'n cwrdd yn y brifddinas, Colombo.

Y Llefarydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is Lefarydd a Chadeirydd y Pwyllgorau neu Is Gadeirydd y Pwyllgorau, yw llywydd y Senedd.

Mae gan Arlywydd Sri Lanca yr hawl i alw, ohirio neu ddiweddu sesiwn ddeddfwriaethol a rhoi heibio'r Senedd am gyfnod mewn amgylchiadau arbennig.

Allan o'r 225 aelod seneddol, mae 196 yn cael eu hethol gan 25 Ardal Etholaethol aml-aelod. Mae'r 29 eraill yn cynrychioli seddi ar y Rhestr Genedlaethol, a ddosrennir i'r pleidiau yn ôl eu canran o'r bleidlais genedlaethol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sri Lanca. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.