Setu Bandha Sarvangasana

Setu Bandha Sarvangasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas gwrthdro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Kāmapīṭhāsana" o Sritattvanidhi; 19g

Asana (neu ystym mewn ioga hynafol a modern yw Setu Bandha Sarvāṅgāsana (Sansgrit: सेतु बन्ध सर्वाङ्गासन; Lladineiddiad: Kāmapīṭhāsana), Y Bont a elwir hefyd yn Setu Bandhāsana ac mewn ioga hynafol fel Kāmapīṭhāsana.[1][2][3]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Daw enw'r ystum o'r geiriau Sansgrit सेतु Setu, pont; बन्ध Bandha, dal; सर्वा Sarva, i gyd; ङ्ग Anga, aelod; ac आसन Asana, ystym neu osgo'r corff.[4]

Mae'r ystum yn ymddangos fel "Kāmapīṭhāsana" yn y testun Sritattvanidhi (ysgrifennwyd cyn 1868) o'r 19g; gweler y diagram.[5]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r ystum yn cael ei rhagflaenu gan y Sarvāṅgāsana (sefyll ar yr ysgwydd), gyda'r frest yn cael ei dal ymlaen gan y dwylo a'r traed, yn cael eu gostwng i'r llawr y tu ôl i'r cefn. Mae'r pengliniau'n parhau wedi eu plygu. Dull haws yw cefnorwedd, yna codi'r cefn o'r llawr. Mae'r ystum llawn â'r pengliniau wedi'u plygu a'r fferau wedi'u dal (Bandha) gerfydd y dwylo. Gellir gadael yr ystum naill ai trwy orwedd neu drwy llithro'n ôl i fyny i safle lle mae'r corff yn sefyll ar yr ysgwyddau.[4][6][7][3]

Amrywiadau

[golygu | golygu cod]

Mae ffurf gyffredin ar y ystum â'r breichiau yn syth allan ar hyd y ddaear tuag at y traed, y breichiau'n syth gyda'r bysedd wedi'u cyd-gloi.[3] Mae rhai ymarferwyr yn gallu sythu'r coesau yn yr ystum.[1]

Mae gan Eka Pada Setu Bandha Sarvangasana (Pont un goes) un goes wedi'i chodi'n fertigol i'r awyr.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Mehta 1990.
  2. Lidell 1983.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 YJ Editors (28 August 2007). "Bridge Pose". Yoga Journal.
  4. 4.0 4.1 Mehta 1990, tt. 116, 120–121.
  5. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. t. Plate 14 (asana 83). ISBN 81-7017-389-2.
  6. Lidell 1983, tt. 44–45.
  7. Iyengar 1979, tt. 227–230.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]