Seán Ó hEinirí

Seán Ó hEinirí
Ganwyd26 Mawrth 1915 Edit this on Wikidata
Kilgalligan Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1998 Edit this on Wikidata
Kilgalligan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpysgotwr, seanchaí Edit this on Wikidata

Seanchaí (chwedleuwr Gwyddeleg) a brodor o Cill Ghallagáin, Swydd Mayo oedd Seán Ó hEinirí (Seán Ó hInnéirghe, 26 Mawrth 1915 - 26 Gorffennaf 1998), a adwaenir yn Saesneg fel John Henry. Credir mai ef oedd y siaradwr uniaith Gwyddeleg olaf.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Amcangyfrifwyd gan Whitley Stokes fod tua 800,000 o siaradwyr uniaith Gwyddeleg ym 1800. Gostyngodd hyn i oddeutu 320,000 erbyn diwedd y Newyn Mawr, ac roedd y ffigur dan 17,000 ym 1911.[1] Roedd siaradwyr uniaith yn y 1950au, ond erbyn yr 80au a'r 90au roeddent bron i gyd wedi marw. Credir bellach mai Séan Ó hEinirí oedd siaradwr uniaith olaf yr Wyddeleg.[2]

Ganwyd Ó hÉinirí yn Cill Ghallagáin (Kilgalligan), Swydd Mayo, i Michael Henry a Mary (Connolly). Ers oedran ifanc, roedd yn benderfynol o gasglu cymaint o hen chwedlau a straeon traddodiadol ag y gallai.[3] Cwryglwr a rhwyfwr medrus oedd ef.[4]

Daeth yn adnabyddus fel seanchaí dawnus, a buodd Proinnsias de Búrca yn casglu straeon ganddo yn nyddiau Comisiwn Llên Gwerin Iwerddon (1935-1971). Flynyddoedd wedyn, fe'i recordiwyd gan Dr Séamas Ó Catháin o Adran Llên Gwerin Iwerddon dros gyfnod o fwy na deg haf gan ddechrau ym 1975. Cyhoeddwyd llawer o'r gwaith hwn yn "Scéalta Chois Cladaigh" ('Straeon Môr a Thraeth') ym 1983 gan Gyngor Llên Gwerin Iwerddon (Cyngor Bhéaloideas Éireann).[5] Fe gynigiodd O hÉinirí nifer fawr o eiriau ac ymadroddion i'r geiriadurwr Tomás de Bhaldraithe, a ymgorfforwyd yng ei gyfrol dylanwadol, English-Irish Dictionary, ym 1959.[4] Yn ogystal â hyn, rhoddodd dros 800 o enwau llecynnau bach i Patrick Flanagan o'r Comisiwn Llên Gwerin ar gyfer llyfr The Living Landscape, Kilgalligan, Erris a ymddangosodd ym 1974.

Ffilmiwyd Ó hEinirí yn rhaglen ddogfen chwe rhan y BBC In Search of the Trojan War, a ddarlledwyd ym 1985. Yn ôl y rhaglen, roedd Ó hEinirí yn anllythrennog.[4] Fe ymddangosodd ar 25 Gorffennaf yr un flwyddyn ar raglen newyddion Morning Ireland hefyd.[6]

Ym 1986 ymddangosodd Ó hEinirí mewn pennod o'r gyfres The Story of English a gynhyrchwyd gan y BBC ac a enillodd Emmy. Roedd yn byw ym mhentref Cill Ghallagáin, lle yr oedd pobl yn ei adnabod fel seanfhondúir ('hen ŵr, sefydlydd gwreiddiol'). Bu farw ar 26 Gorffennaf 1998 gan adael ei wraig, Máire (a fu farw yn 2001). Claddwyd Ó hEinirí ym Mynwent Kilgalligan.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-04-30. Cyrchwyd 2020-07-23.
  2. "Irish language in County Mayo". Irish language in County Mayo. Cyrchwyd 2017-04-24.
  3. Interview from the 1985 BBC documentary In Search of the Trojan War
  4. 4.0 4.1 4.2 Ó Catháin, Séamas (24 April 1998). "Seán Ó hEinirí (1915-1998)". Béaloideas 66: 235–237. JSTOR 20522503.
  5. "[Seanchaí, Seán Ó hEinirí (John Henry) (70), Kilgalligan, Erris, Co. Mayo.] - UCD Digital Library". Digital.ucd.ie. Cyrchwyd 2017-04-24.
  6. "RTÉ Archives | Arts and Culture | Irish Storytelling Project". Rte.ie. Cyrchwyd 2017-04-24.
  7. "Indexed Photos of Headstones in Kilgalligan Cemetery, Kilcommon, Co. Mayo, Ireland". Goldenlangan.com. Cyrchwyd 2017-04-24.