Pôs mathemategol a gyflwynwyd gan fathemategwyr Groegaidd yw sgwario'r cylch. Y broblem a osodwyd oedd: sut i greu sgwâr gyda'r un arwynebedd a'r cylch a roddir, gan ddefnyddio cwmpawd a llinell syth, a chyflawni'r pôs mewn hyn-a-hyn o gamau. Caiff 'sgwario'r cylch' ei ddefnyddio fel idiom, bellach, i olygu "ceisio gwneud rhywbeth sy'n amhosibl ei gyflawni".[1]
Yn 1882, fe brofwyd na ellid llunio'r ffigwr hwn mewn hyn-a-hyn o gamau gyda phren mesur a chwmpawd, o ganlyniad i ddamcaniaeth Lindemann–Weierstrass a brofai fod pi (π) yn drosgynnol yn hytrach nag yn rhif anghymarebol, algebraidd. Hynny yw, nid yw'n sero o unrhyw bolynomial gyda chyfernod cymarebol (rational coefficients). Roedd yn wybyddus am sawl degawd cyn hynny y byddai'n amhosib sgwario'r cylch pe bai π yn drosgynnol, ond ni phrofwyd hynny hyd at 1882.[2]
Y Groegwr cyntaf i gyflwyno'r broblem oedd yr athronydd Anaxagoras (Ἀναξαγόρας; c. 510 – c. 428 CC), gan sgwario'r cilgant (siapau tebyg i'r lloer, tra yn y carchar. Aeth Hippocrates o Chios ati wedi hynny, i geisio datus y broblem ac Oenopides ar ei ôl. Cyhoeddwyd y papur cyntaf ar y pwnc gan yr Albanwr James Gregory (1638 – 1675) yn 1667, ond roedd ei fathemateg yn wallus.
Gellir rhoi brasamcan drwy lunio hydoedd sy'n agos at π. Does dim angen llawer o allu mathemategol i drosi unrhyw bras amcan cymarebol o π yn lluniad mesurydd a chwmpawd cyferbyniol, ond gall y lluniadau hyn fod yn hir wyntog, ac nid yw'r ateb yn berffaith. Wedi profi nad oedd ateb i'r broblem, aeth rhai mathemategwyr ati i ganfod bras amcanion gwahanol.
Rhoddodd pob un o'r pedwar olaf hyn luniadau geometrig i: