Shapur I | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 g ![]() Firuzabad ![]() |
Bu farw | 272 ![]() Bishapur ![]() |
Dinasyddiaeth | Sassaniaid ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | king of the Sasanian Empire ![]() |
Tad | Ardashir I ![]() |
Mam | Murrod ![]() |
Priod | unnamed daughter of Mihrak, Khwarranzem, Al-Nadirah, Domitica ![]() |
Plant | Bahram I, Narseh, Hormizd I ![]() |
Llinach | Sasanian dynasty ![]() |
Brenin Persia o 241 hyd 272 oedd Shapur I.
Roedd Shapur o linach y Sassaniaid ac yn fab i Ardashir I. Ymladdodd lawer yn erbyn Ymerodraeth Rhufain. Tua 241, ymosododd ar feddiannau Rhufain yn y dwyrain, a chipiodd Syria, Armenia a dinasoedd ym Mesopotamia. Ceisiodd yr ymerawdwr Gordianus III adfeddiannu Syria yn 243. Yn 260, gyrrodd yr ymerawdwr Valerianus I Shapur o Syria, ond cymerwyd ef yn garcharor gan y Persiaid gerllaw Edessa. Cadwodd Shapur ef yn garcharor am weddill ei fywyd.
Cyflwynodd ei frawd Peroz y proffwyd Mani i Shapur. Rhoddodd Shapur ei gefnogaeth iddo, gan hyrwyddo lledaeniaid Manicheaeth. Olynwyd ef gan ei fab, Hormazd I.