Enghraifft o: | iaith cant |
---|---|
Math | Swahili |
Mae Sheng yn dafodiaeth neu'n iaith-gymysg o kiSwahili a Saesneg a ddatblygodd ymysg trigolion ardaloedd tlawd a torfol Nairobi, prifddinas Cenia. Fe'i dylanwadwyd gan ieithoedd eraill Cenia a siaradwyd yn y treflannau. Mae'r iaith wedi ymestyn bellach ar draws pob dosbarth cymdeithasol ac i Tansanïa ac Wganda. Mae'n anodd diffinio ai iaith neu datodiaith yw Sheng neu iaith neu creole neu cant neu iaith yn ei datblygiad.
Cysylltair yw "Sheng" o'r ddwy iaith y mae'n tynnu arno, sefl: Swahili a English. Cynhwyswyd yr "h" yn y canol achos byddai "Seng" yn swnio'n od. Er gwaetha'r honiad o ddylanwad Saesneg yn yr iaith, prin iawn yw hynny yw weld i siaradwr Saesneg.
Datblygodd yr iaith yn yr 1950au yn ardal Eastlands o ddinas Nairobi (ardal a ddisgrifir fel "slum", "ghetto" neu "suburb"). Clywir Sheng bellach ymysg gyrwyr tacsi-fws matatu yr ardal, yn y cyfryngau poblogaidd. Mae'r iaith wedi ymledu drwy gerddoriaeth pop. Gellir disgwyl ei bod bellach yn iaith gyntaf i nifer, er bod hyn yn anodd ei gadarnhau.
Iaith pobl ifanc yw Sheng ac mae'n rhan o'r diwylliant poblogaidd yn y wlad. Ddefnyddiwyd hi mewn cerddoriaeth hip hop ac artistiaid fel Kalamashaka a G.rongi yn ardal y Llynoedd Mawr (Great Lakes) yn yr 1990au. Caiff ei defnyddio bellach ymysg myfyrwyr prifysgol ac ysgol. Nododd cyflwynwyr radio megis John Karani, Jeff Mwangemi a Prince Otach, tŵf a defnydd o'r iaith a dechruon nhw gynnwys yr iaith yn eu rhaglenni radio gan ddefnyddio termau Sheng ar radio cenedlaethol Cenia. Erbyn 2010 roedd bron pob fath o gyfryngau yn gwneud rhyw fath o ddefnydd o Sheng.
Ar 50 mlwyddiant annibyniaeth Cenia, nodwyd "nad oedd modd bod yn cŵl oni bai bod nhw'n siarad Sheng" a nodir fod yr iaith yn "fygythiad i Sasneg a Swahili"[1]
Er bod gramadeg, geirfa, cystrawen a llawer o eirfa Sheng yn deillio o Swahili, mae Sheng hefyd yn benthyg o ieithoedd eraill Cenia megis Luhya, Gikuyu, Luo a Kamba.[2] Ceir hefyd rhai geiriau nad sy'n dod o'r Saesneg na'r ieithoedd brodorol, megis y gair "morgen" a ddaw o'r Almaeneg am 'bore' ac a ddefnyddir mewn ffordd tebyg o ran cyfarch i'r Almaeneg.
Gall geirfa Sheng amrywio'n fawr o fewn is-grwpiau a grwpiau ethnig Cenia ac ardal y Llynnoedd Mawr a hyd yn oed rhwng gymunedau o fewn Nairobi. Bydd llawer o bobl ifanc Nairobi yn defnyddio Sheng fel ei hiaith bod dydd yn hytrach na Swahili neu Saesneg. Gellir ystyried Sheng yn fersiwn neu ddatblygiad cyfoes ar yr iaith Swahili. Cofier fod Swahili ei hun wedi datblygu fel iaith rhyng-ethnig gan gyfuno Arabeg a ieithoedd Bantu Affricanaidd.
Cafwyd cyfeiriad byr ar bodlediad Localisation Africa yn 2022.[3]
Prin iawn yw'r enghreifftiau o lenyddiaeth mewn Sheng. Un o'r ychydig lyfrau yn yr iaith yw'r llyfr gyntaf mewn Sheng, "Lafudhi hip hop poetry in Sheng" a ysgrifennwyd gan G.rongi, ac a gyhoeddwyd yn 2015.
Mae'r ffenomenon sy'n gyrru datblygiad koine fel Sheng - mudiad pobloedd yn siarad ieithoedd Bantw gwahanol; creu iaith ieuenctid neu gudd-iaith, yn digwydd ar draws sawl lle yn Affrica. Un enghraifft enwog yw'r 'tafodiaith' a elwir yn Tsotsitaal oedd yn seiliedig ar ramadeg Afrikaans yn Ne Affrica ond sydd bellach wedi edwino ac, yn ei le, mae koine arall sef isiCamtho.
Sheng | Cymraeg |
---|---|
Huu msee ni fala! | Mae'r boi yna'n idiot! |
Si unidungie chuani? | Gelli di roi pum deg Shilling i fi? |
Ule dame amechapa! | Mae'r ferch yna'n hyll! |
Maisha ni gweng bana. | Mae bywyd yn anodd, ddyn. |
Alirauka gware ndo asihate mat za kwenda kwao moshatha. | Deffrodd yn gynnar er mwyn peidio colli y matatu i'w gartref gwledig. |