Shireen Abu Akleh | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | شيرين نصري أنطون أبو عاقلة ![]() 3 Ebrill 1971 ![]() Jerwsalem ![]() |
Bu farw | 11 Mai 2022 ![]() o anaf balistig ![]() Jenin ![]() |
Man preswyl | Jerwsalem, Beit Hanina ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gohebydd, television journalist ![]() |
Cyflogwr |
|
Cartre'r teulu | Jerwsalem ![]() |
Perthnasau | Lina Abu Akleh ![]() |
Gwobr/au | Order of Jerusalem, Order of Independence, Gwobr Dewrder mewn Newyddiaduraeth, Order of Courage ![]() |
Roedd Shireen Abu Akleh ( Arabeg: شيرين أبو عاقلة ; 3 Ebrill 1971 – 11 Mai 2022) yn newyddiadurwraig Palesteinaidd - Americanaidd Roedd h'n gweithio fel gohebydd i sianel Arabeg Al Jazeera am 25 mlynedd. Roedd hi'n enwog ar draws y Dwyrain Canol am ei degawdau o ohebu yn y tiriogaethau wedi'u meddiannu gan Israel. Cafodd ei saethu wrth orchuddio cyrch gan Lluoedd Amddiffyn Israel ar ddinas Jenin ar y Lan Orllewinol.[1]
Ganed Abu Akleh yn Jerwsalem ; roedd ei theulu yn Gristnogion Arabaidd Palesteinaidd o Fethlehem. Treuliodd amser yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd dinasyddiaeth UDA trwy aelodau o deulu sy'n byw yn New Jersey.[2]
Cafodd ei addysg yn yr ysgol uwchradd yn Beit Hanina, ac wedyn ymaelododd ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Jordan lle astudiodd pensaernïaeth, [3];[4] trosglwyddodd i Brifysgol Yarmouk yn yr Iorddonen lle graddiodd gyda gradd baglor mewn newyddiaduraeth. Ar ôl graddio, dychwelodd Abu Akleh i Balestina. [3]