Shirley Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 16 Gorffennaf 1927 Lerpwl, West Kirby |
Bu farw | 25 Chwefror 2022 West London |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, darlunydd |
Blodeuodd | 1947 |
Adnabyddus am | Dogger |
Plant | Ed Vulliamy |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, CBE, Medal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway |
Awdures a darlunwraig llyfrau plant o Loegr oedd Shirley Hughes (16 Gorffennaf 1927 – 25 Chwefror 2022). Ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau, sydd wedi gwerthu drost 11.5 miliwn copi, ac darllunodd dros ddau gant o lyfrau. Roedd hi'n arfer byw yn Llundain heddiw.[1][2][3]
Magwyd Hughes yn West Kirby, Cilgwri. Dywedai mai arlunwyr megis Arthur Rackham a W. Heath Robinson, a'i ysbrydolodd yn ystod ei phlentyndod, ac yn ddiweddarach, gan ffilm a'r Walker Art Gallery.[4] Addysgwyd yn West Kirby High School, ac astudiodd ddarlunio a dylunio gwisg yn Ysgol Celf Lerpwl, ac Ysgol Darlunio a Celfyddyd Gain Ruskin yn Rhydychen.[2] Cafodd ei hanno i weithio ar lyfrau lluniadol tra roedd yn Rhydychen, ac i wneud darluniau lithograffaidd. Comisiynwyd yn fuad wedyn gan Collins. Ar ôl gadael yr ygol gelf, symudodd Hughes i Notting Hill, Llundain[5] a priododd John Vulliamy, pensaer a ysgythrwr, a cawsont dri o blant, gan gynnwys y gohebydd Ed Vulliamy, merch sydd hefyd yn ddarlunwraig llyfrau plant, Clara Vulliamy.[6] Bu farw yn Llundain yn 94 oed.[7]
Dechreuodd Hughes ei gwaith yn ystod yr 1950au a'r 1960au, gan ddarlunio llyfrau megis My Naughty Little Sister gan Dorothy Edwards a The Bell Family gan Noel Streatfeild.[5] Ei gwaith cyntaf fel awdures oedd Lucy & Tom's Day, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1960. Daeth y stori'n boblogaidd, felly daeth Lucy and Tom yn gyfres o lyfrau.[1] Cariodd Hughes ymlaen i ysgrifennu drost hanner cant o straeon, gan gynnwys cyfres fer am fachgen o'r enw Alfie, a'i chwaer Annie-Rose.[6]
Dogger, a ysgrifennwyd yn 1977, oedd y cyntaf i gael ei gyhoeddi yn eang dramor.[4] Enillodd y stori iddi Fedal Kate Greenaway yr un flwyddyn. Enillodd Hughes wobr Eleanor Farjeon yn 1984, am wasanaethau enwog i lenyddiaeth plant. Yn 1999, derbyniodd OBE, ac yn 2000, cafodd ei gwneud yn Gymrawd Cymdeithas Brenhinol Llenyddiaeth. Enillodd Fedal Kate Greenaway unwaith eto yn 2003, am Ella's Big Chance, a derbyniodd Gymredoriaeth Anrhydedd gan Prifysgol Lerpwl John Moores.[5]