Enghraifft o'r canlynol | asana, pensefyll |
---|---|
Math | asanas gwrthdro |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asana neu ystym corfforol yw Shirshasana neu Salamba Shirshasana ('pensefyll mewn ioga'), sy'n asana gwrthdro mewn ioga modern fel ymarfer corff; fe'i disgrifir fel asana a mwdra mewn ioga hatha clasurol, dan wahanol enwau. Gelwir yr asana hwn, weithiau, yn "frenin pob asana".
Daw'r enw Salamba Shirshasana o'r geiriau Sansgrit सालम्ब Sālamba sy'n golygu "cefnogi", शीर्ष, Śīrṣa sy'n golygu "pen",[2] ac आसन, Āsana sy'n golygu "ystym corfforol".[3]
Mae'r enw Shirshasana (Śīrṣāsana) yn gymharol ddiweddar - yn fwy diweddar na'r ystym ei hun, ond arferid ei adnabod gydag enwau eraill.
Fel asanas gwrthdro eraill, arferid ei galw'n Viparita Karani, a ddisgrifiwyd fel mwdra yn yr Ioga Hatha Pradipika a thestunau clasurol eraill ar ioga haṭha.[4]
Mae Yogaśāstra o'r 11g yn ei enwi'n Duryodhanāsana ("ac yn Kapālīkarana ("techneg pen").[5] Mae'r Malla Purana, llawlyfr o'r 13g ar gyfer reslwyr, caiff ei henwi, ond ni chaiff ei disgrifio.[6] Mae'r Joga Pradīpikā o'r 18g yn ei alw'n Kapālī āsana, ("asana'r pen"), lle mae'n rhif 17 o'r set o 84 asanas a ddisgrifir ac a ddarlunnir yno,[1] tra bod y Sritattvanidhi o'r 19g yn defnyddio'r enw Śīrṣāsana yn ogystal â Kapālāsana.[6]
Mae gan Shirshasana lawer o amrywiadau, gan gynnwys:
Trawslythreniad | Saesneg | Delwedd |
---|---|---|
Salamba Shirshasana 2 | Pensafiad 2 (cledrau'r dwylo ar i lawr, lled ysgwydd) | [1] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Salamba Shirshasana 3 | Pensafiad 3 (cledrau'r dwylo ar i lawr, o flaen yr wyneb) | [2] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Baddha Hasta Shirshasana | Pensafiad, gyda'r dwylo'n glwm | [3] Archifwyd 2022-01-16 yn y Peiriant Wayback |
Baddha Konasana Shirshasana | Osgo ongl Clwm, gan Bensefyll | [4] Archifwyd 2022-01-16 yn y Peiriant Wayback |
Dvi Pada Viparita Dandasana | Pensefyll a Phlygu'r cefn | [7] |
Eka Pada Shirshasana | Pensefyll Coes Sengl | [5] Archifwyd 2022-01-16 yn y Peiriant Wayback |
Mukta Hasta Shirshasana | Pensefyll Dwylo'n Rhydd | [6] Archifwyd 2021-11-05 yn y Peiriant Wayback |
Parivrttaikapada Shirshasana | Pensefyll Coes Sengl ar Dro | [7] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Parshva Shirshasana | Pensefyll Ochr | [8] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Parshvaikapada Shirshasana | Pensefyll Coes Sengl | [9] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Upavistha Konasana Shirshasana | Pensefyll ar Ongl tra'n Eistedd | [10] Archifwyd 2021-10-27 yn y Peiriant Wayback |
Urdhva Padmasana yn Shirshasana | Pensefyll Lotus ar i fyny | [11] |