![]() | |
Enghraifft o: | cynulleidfa darged ar gyfer manga, manga genre ![]() |
---|---|
Math | manga ![]() |
![]() |
Math o fanga ydy Shōjo, shojo, neu shoujo manga (少女漫画 shōjo manga) sydd wedi'i greu ar gyfer merched glasoed rhwng 10 a 18 oed. Y gair Japaneg am y math yma o gyfrwng ydy 少女 (shōjo), sy'n golygu "y fenyw fach". Mae yna lawer o themâu yn y categori yma o fanga: storiau wedi'u lleoli mewn hanes neu ffuglen wyddonol gyda'r pwyslais yn aml ar berthynas rhamantus.[1] Felly, nid arddull neu genre per se ydy shōjo manga ond yn hytrach cynulleidfa darged o oedran arbennig.[2][3]
Cardcaptor Sakura, Fruits Basket, Fushigi Yuugi, Ouran High School Host Club, Pretty Cure, Princess Ai, Princess Tutu, Revolutionary Girl Utena, Lovely Complex, Romeo x Juliet, Sailor Moon, Skip Beat, Shugo Chara!, Tokyo Mew Mew, Rose of Versailles, , Kaichou wa Maid-sama a Nana.
Mae diwylliant Japan yn llawer mwy agored na Ewrop neu'r Unol Daleithiau o America. Ceir llawer o luniau bechgyn hanner noeth yn y comics yma, gyda rhai yn cusannu'i gilydd mewn cangymeriad. Mae Agent Aika yn enghraifft o hyn. Caiff llawer o'r comics hyn eu sensro yn America.