Data wedi'i gynrychioli mewn modd graffigol a gweledol yw siart, neu 'siart data'. Cynrychiolir y data gan symbolau megis bariau mewn siart bar, llnellau mewn siart llinell neu sleisen mewn siart cylch. Gall arddangos data rhifol ar ffurf tabl neu ffwythiannau ac unrhyw strwythurau o symiau gan ei gyflwyno i'r darllenydd mewn modd gymharol syml.[1]
Mae gan y term "siart", fel cynrychiolaeth graffigol o ddata, sawl ystyr:
Defnyddir siartiau'n aml i'w gwneud hi'n haws deall swm anferthol o ddata, a'r berthynas rhwng rhannau o'r data. Fel arfer, gall siartiau gael eu darllen yn gyflymach na'r data crai. Fe'u defnyddir mewn amrywiaeth eang o feysydd, a gellir eu creu â llaw (yn aml ar bapur graff) neu drwy gyfrifiadur gan ddefnyddio meddalwedd siartio. Mae rhai mathau o siartiau yn fwy defnyddiol ar gyfer cyflwyno set ddata benodol nag eraill. Er enghraifft, mae data sy'n cyflwyno canrannau mewn gwahanol grwpiau (fel atebion i holiadur: "bodlon", "anfodlon", "ansicr" ayb) yn cael eu harddangos yn aml mewn siart cylch, ond mae'n bosibl eu bod yn haws eu deall pan fyddant yn cael eu cyflwyno mewn siart bar llorweddol. Ar y llaw arall, mae'n bosibl y bydd y data sy'n cynrychioli niferoedd sy'n newid dros gyfnod o amser (fel "Incwm Blynyddol o 2018 i 2019") yn cael ei ddangos orau fel siart llinell.