Siboleth (shibboleth) yw unrhyw arfer neu draddodiad, fel arfer rhyw ddewis o frawddeg neu hyd yn oed o air, sy'n gwahaniaethu un grŵp o bobl oddi wrth grŵp arall. Defnyddiwyd sibolethau trwy gydol hanes mewn nifer o gymdeithasau fel cyfrineiriau, ffyrdd syml o hunan-adnabod, signalau teyrngarwch a chysylltiad, cynnal arwahanu traddodiadol, neu amddiffyn rhag bygythiadau.
Mae'r term yn tarddu o'r gair Hebraegshibbólet (שִׁבֹּלֶת) sy'n llythrennol yn golygu y rhan o blanhigyn sy'n cynnwys grawn, fel pen coesyn o wenith neu ryg;[1] neu'n llai cyffredin "llifogydd, cenllif".[2][3]
Mae'r defnydd modern yn deillio o gyfrif yn y Beibl Hebraeg, lle defnyddiwyd ynganiad o'r gair hwn i wahaniaethu Effraimiaid, a oedd yn defnyddio cytsain gyntaf wahanol yn ei dafodiaith ac felly oedd y gair yn swnio'n wahanol. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â'r llythyren Hebraeg shin, sydd bellach yn cael ei ynganu fel [ʃ] (fel siarad yn Gymraeg).[4] Yn Llyfr y Barnwyr, pennod 12, ar ôl i drigolion Gilead o dan orchymyn Jephtha curo llwyth Effraim yn filwrol (tua 1370–1070 CC), ceisiodd yr Effraimiaid a oroesodd groesi'r Afon Iorddonen er mwyn mynd yn ôl i'w cartref. Ond gwaith y Gileadiaid ei hatal. Er mwy gallu adnabod a lladd yr Effraimiaid hyn, gorfododd y Gileadiaid i'r goroeswyr dweud y gair siboleth. Oherwydd tafodiaith yr Effraimiaid byddant yn ynganu'r gytsain gyntaf fel [s] (fel s Cymraeg arferol).
Mewn defnydd modern, gall siboleth cael ystyr gymdeithasegol, yn cyfeirio at unrhyw air neu ymadrodd mewn-grŵp a all wahaniaethu rhwng aelodau a phobl o'r tu allan - hyd yn oed os nad oes teimladau drwg rhwng y grwpiau.[5] Weithiau fe'i defnyddir mewn ystyr ehangach i olygu jargon, y mae ei ddefnydd priodol yn nodi siaradwyr fel aelodau o grŵp neu isddiwylliant penodol.
Gellir ymestyn y term siboleth, fel yn nisgyblaeth semioteg, i ddisgrifio elfennau an-ieithyddol diwylliant fel diet, ffasiwn a gwerthoedd diwylliannol. Gall profion litmws diwylliannol a phrofiadau a rennir hefyd fod yn sibolethau o fath. Er enghraifft, mae pobl tua'r un oed sydd o'r un genedl yn tueddu i fod â'r un atgofion o ganeuon poblogaidd, sioeau teledu, a digwyddiadau o'u blynyddoedd cynnar. Mae'r un peth yn wir am gyn-fyfyrwyr ysgol benodol, cyn-filwyr gwasanaeth milwrol, a grwpiau eraill. Gall mewn-jôcs fod yn fath tebyg o siboleth profiadau a rennir.
Mewn technoleg gwybodaeth mae siboleth yn gyfrinair ledled y gymuned sy'n galluogi aelodau'r gymuned honno i gael mynediad at adnodd ar-lein heb ddatgelu eu hunaniaeth unigol. Gall y serfiwr gwreiddiol adnabod y defnyddiwr unigol heb roi unrhyw wybodaeth adnabod bellach i'r serfiwr targed.[6] Yn y modd yma nid yw'r defnyddiwr unigol yn gwybod y cyfrinair a ddefnyddir mewn gwirionedd - mae'n cael ei gynhyrchu'n fewnol gan y serfiwr - ac felly ni all cael ei fradychu i bobl o'r tu allan.
Mae sibolethau wedi cael eu defnyddio gan wahanol isddiwylliannau ledled y byd ar wahanol adegau. Mae gwahaniaethau rhanbarthol, lefel arbenigedd, a thechnegau codio cyfrifiadurol yn sawl ffurf y mae sibolethau yn ymddangos:
Yn ôl y chwedl, cyn y frwydr Guldensporenslag ym mis Mai 1302, fe wnaeth y bobl Fflemeg ladd pob Ffrancwr y gallant nhw ddod o hyd iddo yn ninas Brugge. Gelwir hwn y Brugse Metten.[7] Fe wnaethant adnabod Ffrancwyr ar sail eu hanallu i ynganu'r ymadrodd Fflemeg "schild en vriend" (tarian a ffrind), neu efallai "'s Gilden vriend" (ffrind i'r urdd).
Mae "bûter, brea, en griene tsiis; wa't dat net sizze kin, is gjin oprjochte Fries" yn golygu "menyn, bara rhyg a chaws gwyrdd, mae pwy bynnag na all ddweud hwn ddim yn Ffriseg go iawn" ac fe'i defnyddiwyd gan y Pier Gerlofs Donia yn ystod y gwrthryfel Ffriseg (1515–1523). Roedd y llongau na all eu criw ynganu hyn yn gywir fel arfer yn cael eu hysbeilio, a milwyr na all ei ynganu eu lladd gan Donia ei hun.[8]
Ym mis Hydref 1937, defnyddiwyd y gair Sbaeneg am bersli, "perejil", fel siboleth i adnabod mewnfudwyr o Haiti oedd yn byw ar hyd y ffin yng Ngweriniaeth Dominica. Gorchmynnodd llywydd Gweriniaeth Ddominica, Rafael Trujillo, ddienyddiad y bobl hyn. Honnir i rhwng 20,000 a 30,000 o unigolion gael eu llofruddio o fewn ychydig ddyddiau, a elwir y Gyflafan Persli. Mae ysgolheictod diweddar a diffyg tystiolaeth yn rhoi’r cyfanswm gwirioneddol yn agosach at 1,000.[9]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiodd rhai o filwyr yr Unol Daleithiau yn theatr y Môr Tawel y gair lollapalooza fel siboleth i adnabod pobl anhysbys, ar y rhagdybiaeth bod pobl Japan yn aml yn ynganu'r llythyren L fel R neu'n drysu'r llythrennau R ac L.[10] Mae straeon o bobl yn cael ei saethu'n syth os na allant ynganu'r gair yn gywir.[11]
Yn ystod terfysgoedd Gorffennaf Du yn Sri Lanca ym 1983, cyflafanwyd nifer o bobl Tamilaidd gan bobl ifanc Sinhalaidd. Mewn nifer o'r achosion roedd y cyflafanau hyn ar fysiau, lle gofynnwyd i deithwyr ynganu geiriau a oedd yn dechrau gyda ⟨ba⟩ caled ar ddechrau'r gair (fel "baldiya" - bwced). Dienyddiwyd y bobl a oedd yn cael trafferth gyda'r ynganiad.[12][13]
Yn ystod Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon, roedd defnyddio'r enw Derry neu Londonderry ar gyfer dinas ail-fwyaf y dalaith yn aml yn cael ei gymryd fel arwydd o safiad gwleidyddol y siaradwr.[14] Mae ynganiad enw'r llythyren H yn siboleth hefyd, gyda'r Catholigion yn ei ynganu fel "haitch" a Phrotestaniaid yn aml yn ynganu'r llythyren yn wahanol.[15]
Yng Nhwlen, siboleth cyffredin i wahaniaethu rhwng rhywun a anwyd yng Nghwlen gan rywun sydd wedi symud yno yw gofyn "Saag ens 'Blodwoosch'" (dywedwch "selsig gwaed", yn nhafodiaith Cwlen). Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn dric, bydd unrhyw un sy'n ceisio ateb yn cael ei gydnabod fel Imi, dynwaredwr neu rywun o dramor. Yr ateb cywir yw dweud gair gwahanol yn gyfan gwbl, "Flönz", y gair tafodiaith Cwlen arall am selsig gwaed.
Mae pobl o'r Iseldiroedd yn defnyddio enw tref lan môr Scheveningen fel siboleth i wahaniaethu'r Almaenwyr o'r bobl Iseldiroedd (yn Iseldireg ynganir "sch" fel y llythyren "s" ac wedyn "ch" ([sx]), tra yn Almaeneg fe'i hynganir fel [ʃ]).[16][17][18]
Yn Sweden ynganir y clwstwr cytsain ⟨rs⟩ fel [ʂ], ond yn nhalaith Småland mae'n cael ei ynganu [s] . Mae'r dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth yn cael ei ddathlu yn Småland gyda marsipán, gan fod hyn yn tynnu sylw at y siboleth: "massipan i fössta tossdagen i mass", ond mewn mannau eraill yn Sweden "marsipan i första torsdagen i mars".
Gall siboleth adnabod unigolyn fel rhan o grŵp, nid yn seiliedig ar eu gallu i ynganu un neu fwy o eiriau, ond ar eu gallu i adnabod ymadrodd sy'n ymddangos yn ddiniwed fel neges gyfrinachol. Er enghraifft, weithiau mae aelodau Alcoholics Anonymous yn cyfeirio at eu hunain fel "ffrind i Bill W.", sy'n gyfeiriad at sylfaenydd AA, William Griffith Wilson. Efallai i bobl nad yw'n aelod byddai hyn yn ymddangos fel sylw diniwed, ond byddai aelodau eraill yr AA yn deall ei ystyr.[19]
↑Mcnamara, Tim (2005-11-01). "21st Century Shibboleth: Language Tests, Identity and Intergroup Conflict" (yn en). Language Policy4 (4): 351–370. doi:10.1007/s10993-005-2886-0. ISSN1573-1863.
↑Vega, Bernardo (10 October 2012). "La matanza de 1937". La lupa sin trabas (yn Spanish). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 December 2013. Cyrchwyd 7 January 2014. Durante los meses de octubre y diciembre de 1937, fuentes haitianas, norteamericanas e inglesas ubicadas en Haití dieron cifras que oscilaron entre 1,000 y 12,168CS1 maint: unrecognized language (link)
↑Hyndman, Patricia. "-Democracy in Peril, June 1983". Lawasia Human Rights Standing Committee Report -Democracy in Peril, June 1983. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2020-10-21.
↑"Passport to life". Daily News. Daily News (Sri Lanka's state broadsheet). Cyrchwyd 27 April 2015.
↑McNamara, Tim (2005). "21st century shibboleth: language tests, identity and intergroup conflict". Language Policy4 (4): 351–370. doi:10.1007/s10993-005-2886-0.