Sibylle Lewitscharoff

Sibylle Lewitscharoff
Ganwyd16 Ebrill 1954 Edit this on Wikidata
Stuttgart Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 2023 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Rhydd Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, llenor, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amConsummatus, Apostoloff, Blumenberg Edit this on Wikidata
Arddulldrama Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadClemens Brentano Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ingeborg Bachmann, Gwobr Georg Büchner, Gwobr Marie Luise Kaschnitz, Gwobr Kleist, Berliner Literaturpreis, Gwobr Kranichsteiner am Lenyddiaeth, gwobr Marieluise-Fleißer, Gwobr Wilhelm Raabe am Lenyddiaeth, Gwobr Ricarda-Huch, Gwobr Ffair Lyfrau Leipzig am Ffuglen, Brüder-Grimm-Poetikprofessur Edit this on Wikidata

Awdures Almaenig oedd Sibylle Lewitscharoff (16 Ebrill 195413 Mai 2023) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, am ennill Gwobr Georg Büchner yn 2013 ac am ei thair nofel Pong (1998), Apostoloff (2009) a Blumenberg (2011).

Fe'i ganed yn Stuttgart ar 16 Ebrill 1954 i dad Bwlgaraidd, a oedd yn feddyg, a mam Almaenaidd. Cyflawnodd ei thad hunanladdiad pan oedd Sibylle yn naw mlwydd oed.[1][2][3][4][5]

Ar ôl graddio mewn astudiaethau crefyddol ym Mhrifysgol Rydd Berlin, bu'n byw yn Buenos Aires a Pharis cyn dychwelyd i Berlin lle bu'n gweithio fel gwerthwr llyfrau, hyd at 2000.[6]

Dechreuodd Lewitscharoff ei gyrfa fel awdur trwy ysgrifennu ar gyfer radio, gan gynnwys dramâu radio. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, 36 Gerechte, yn 1994.

Yn 1998, cyhoeddodd ei nofel gyntaf Pong. Mae'r nofel wedi'i henwi ar ôl ei phrif gymeriad - dyn sydd wedi cael ei ddehongli gan rai adolygwyr fel gwallgofddyn, ac o bosibl heb fod yn gwbl ddynol. Cafodd ei enw oherwydd ei allu i adlamu o broblem i broblem, fel pêl; rhywbeth sydd wedi'i gysylltu â'i enedigaeth. Ei obsesiwn yw perffeithrwydd dynol, yn enwedig merched, ac mae'n cael ei bortreadu fel casäwr gwragedd. Daw'r llyfr i ben gyda chri llawen Pong wrth iddo gyflawni hunanladdiad trwy neidio o'r to i'r ddaear. Cafodd y llyfr ei ganmol am ei iaith chwareus ac enillodd Wobr Ingeborg Bachmann.[7][8]

Cyhoeddodd y nofel Consummatus yn 2006, teitl a ddaw o eiriau olaf Iesu Grist ar y groes yn ôl Efengyl Ioan: consummatum est ("Gorffennwyd"). Y prif gymeriad yw athro Almaeneg Ralph Zimmermann ac mae'r llyfr yn dilyn ei fonolog wrth iddo, un dydd Sadwrn, eistedd ar ei ben ei hun yfed fodca a choffi mewn caffi yn Stuttgart. Mae ei feddyliau'n tin ymdroi llawer o gwmpas marwolaeth ei rieni mewn damwain, ei gariad Johanna (Joey), yn ogystal ag eiconau pop fel Andy Warhol, Jim Morrison ac Edie Sedgwick.

Bu farw o sglerosis ymledol ym Merlin, yn 69 oed.[9]

Barn bersonol

[golygu | golygu cod]

Yn y gorffennol, mae wedi gwrthwynebu ffrwythloni artiffisial, ffrwythloni drwy ddirprwy (surrogacy), gan alw plant a genhedlwyd yn y modd hwn yn "greaduriaid y cyfnos", "hanner dynol, hanner artiffisal, dwn-i-ddim-beth".

Pan ofynwyd iddi pwy oedd ei hoff awduron, fe nododd: Johann Wolfgang von Goethe, Friedrich Schiller, Gottfried Keller, Karl Philipp Moritz, Clemens Brentano a Bettina Brentano. Ei ffefryn yw Clemens Brentano.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen, Academy of Arts, Berlin, Academi Celfyddydau'r GDR, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd. [10][11]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Ingeborg Bachmann (1998), Gwobr Georg Büchner (2013), Gwobr Marie Luise Kaschnitz (2008), Gwobr Kleist (2011), Berliner Literaturpreis (2010), Gwobr Kranichsteiner am Lenyddiaeth (2006), gwobr Marieluise-Fleißer (2011), Gwobr Wilhelm Raabe am Lenyddiaeth (2011), Gwobr Ricarda-Huch (2011), Gwobr Ffair Lyfrau Leipzig am Ffuglen (2009), Brüder-Grimm-Poetikprofessur (2013)[12][13] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lewitscharoff wins Büchner Prize for 'narrative fantasy'Deutsche Welle. 4 Mehefin 2013. at Wecite.
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Mehefin 2024.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Sibylle Lewitscharoff". Academi Celfyddydau, Berlin. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sibylle Lewitscharoff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sibylle Lewitscharoff". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sibylle Lewitscharoff".
  5. Dyddiad marw: https://www.tagesschau.de/inland/autorin-lewitscharoff-gestorben-100.html.
  6. [Sibylle Lewitscharoff – A True, Witty and Meaning-Giving Power of Language] Goethe.de. Adalwyd 28 Medi 2014. Archived at Webcite.
  7. Benedikt Jager Sibylle Lewitscharoff Nodyn:No icon Store Norske Leksikon. Adalwyd 15 Mawrth 2015
  8. Nele Hempel (1999) Adolygiad: Pong by Sibylle Lewitscharoff Nodyn:Subscription required World Literature Today, Vol 73, nb. 4. Via Jstor.
  9. "Trauer um Sibylle Lewitscharoff". tagesschau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2023. Cyrchwyd 14 Mai 2023.
  10. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 31 Mawrth 2015
  11. Anrhydeddau: https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-literaturpreis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021. https://www.uni-kassel.de/fb02/institute/germanistik/fachgebiete/fg-brueder-grimm-professur/brueder-grimm-professur/2013-sibylle-lewitscharoff.html. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019.
  12. https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-literaturpreis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.
  13. https://www.uni-kassel.de/fb02/institute/germanistik/fachgebiete/fg-brueder-grimm-professur/brueder-grimm-professur/2013-sibylle-lewitscharoff.html. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019.