Gwin cadarn yw sieri (Sbaeneg: Jerez neu Xeres, Saesneg: sherry) wedi'i wneud o rawnwin gwyn sy'n cael eu tyfu ger dinas Jerez de la Frontera yn Andalusia, Sbaen. Cynhyrchir sieri mewn amrywiaeth o arddulliau a wneir yn bennaf o rawnwin Palomino, yn amrywio o fersiynau ysgafn tebyg i winoedd gwin y bwrdd, fel Manzanilla a Fino, i fersiynau tywyllach a thrymach y caniatawyd iddynt ocsideiddio wrth iddynt heneiddio mewn casgen, megis Amontillado ac Oloroso. Cynhyrchir hefyd gwin melys o rawnwin Pedro Ximenez neu Moscatel, ac weithiau caiff eu cymysgu â sieri Palomino.
Mae'r gair "sieri" yn tarddu o Gymreigio'r gair Saesneg "Sherry"; sydd ei hun yn tarddu o Seisnigeiddio Xeres neu Jerez. Roedd sieri arfer cael ei alw'n sack. Yn Ewrop, mae gan sieri 'statws enw tarddiad gwarchodedig', ac o dan gyfraith Sbaen, rhaid yn gyfreithiol i holl win sydd wedi'i labelu'n "sieri" ddod o'r Driongl Sieri, ardal yn nhalaith Cádiz rhwng Jerez de la Frontera, Sanlúcar de Barrameda, ac El Puerto de Santa María.[1] Yn 1933 denominación de origen Jerez oedd yr un cyntaf i'w adnabod o dan gyfraith Sbaen, a elwir y DO Jerez-Xeres-Sherry.
Ar ôl gorffen eplesu caiff y gwinoedd sylfaen eu cyfnerthu â gwirod grawnwin er mwyn cynyddu eu cynnwys alcohol terfynol.[2] Mae gwinoedd megis Fino a Manzanilla yn cael eu cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm cynnwys alcohol o 15.5%. Wrth iddynt heneiddio mewn casgen, maent yn datblygu haen o fflor - twf tebyg i furum sy'n helpu amddiffyn y gwin rhag gormod o ocsideiddio. Mae gwinoedd megis Oloroso yn cael cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm o leiaf 17%. Nid ydynt yn datblygu fflor ac felly maent yn ocsideiddio ychydig wrth iddynt heneiddio, yn rhoi lliw tywyllach iddynt. Gan fod y cyfnerthu'n digwydd ar ôl yr eplesu, mae'r mwyafrif o sieri yn sych i ddechrau, gydag unrhyw felyster yn cael ei ychwanegu'n ddiweddarach. Mewn cyferbyniad, mae gwinoedd port cael eu cyfnerthu hanner ffordd trwy'r eplesiad, sy'n atal y broses fel nad yw'r holl siwgr yn cael ei droi'n alcohol.
Ystyrir sieri gan nifer o awduron gwin[3] fel "heb ei werthfawrogi"[4] ac yn "drysor gwin wedi'i esgeuluso".[5]
Mae Jerez wedi bod yn ganolfan tyfu gwinwydd ers i win cael ei gyflwyno i Sbaen gan y Ffeniciaid yn 1100 CC. Parhaodd yr arfer gan y Rhufeiniaid pan reolon nhw Iberia tua 200 CC. Pan goncrodd y Mwriaid y rhanbarth yn 711 cyflwynon nhw ddistyllu, a arweiniodd at ddatblygu brandi a gwin cadarn.
Yn ystod cyfnod y Mwriaid, galwyd y dref yn Sherish (trawslythreniad o'r Arabeg شريش). Yn draddodiadol, cynhyrchir gwinoedd tebyg o ran arddull i sieri yn ninas Shiraz yng nghanol de-orllewin Iran, ond credir ei fod yn annhebygol bod yr enw yn deillio o'r fan honno.[6][7] Parhaodd yr ardal cynhyrchu gwin trwy bum canrif o reolaeth Fwslimaidd. Yn 966, gorchmynnodd Al-Hakam II, ail Califf Córdoba, i ddinistrio'r gwinllannoedd, ond apeliodd trigolion Jerez yn erbyn hyn ar y sail bod y gwinllannoedd hefyd yn cynhyrchu rhesins i fwydo milwyr yr ymerodraeth, ac arbedodd y Califf ddau draean y gwinllannoedd.
Ym 1264 cymerodd Alfonso X o Castile y ddinas. O'r pwynt hwn ymlaen, cynyddodd cynhyrchiad sieri yn sylweddol a'i allforio ledled Ewrop. Erbyn diwedd yr 16g, roedd gan sieri enw da yn Ewrop fel gwin gorau'r byd.
Daeth Christopher Columbus â sieri ar ei fordaith i'r Byd Newydd, a phan baratôdd Ferdinand Magellan i hwylio ledled y byd ym 1519, gwariodd fwy ar sieri nag ar arfau. Daeth sieri yn boblogaidd iawn ym Mhrydain Fawr, yn enwedig ar ôl i Francis Drake ysbeilio Cadiz ym 1587. Ymhlith yr ysbail a ddaeth â Drake yn ôl i Brydain ar ôl dinistrio fflyd yr Armada, oedd 2,900 casgen o sieri.[8] Helpodd hyn i boblogeiddio sieri ym Mhrydain.[9] Oherwydd bod sieri yn allforyn gwin pwysig i'r Deyrnas Unedig, datblygodd nifer o gwmnïau ac arddulliau Saesneg. Sefydlwyd nifer o'r selerau yn Jerez gan deuluoedd Prydeinig.
Ym 1894 cafodd rhanbarth Jerez ei difrodi gan y pryfed phylloxera. Tra cafodd y gwinllannoedd mawr eu hail-blannu â gwinwydd gwrthsafol, nid oedd y mwyafrif o gynhyrchwyr llai medru ymladd y pla, a rhoddwyd y gorau i'w gwinllannoedd yn llwyr.[10]
Y dosbarthiad yn ôl melyster yw:
Math o Win Cadarn | Alcohol% ABV | Cynnwys siwgr
(gram y litr) |
---|---|---|
Fino | 15–17 | 0–5 |
Manzanilla | 15–17 | 0–5 |
Amontillado | 16–17 | 0–5 |
Palo Cortado | 17–22 | 0–5 |
Oloroso | 17–22 | 0–5 |
Sych | 15–22 | 5–45 |
Hufen Gwelw | 15.5–22 | 45–115 |
Canolig | 15–22 | 5–115 |
Hufen | 15.5–22 | 115–140 |
Dulce / Melys | 15–22 | 160+ |
Moscatel | 15–22 | 160+ |
Pedro Ximénez | 15–22 | 212+ |