Enghraifft o'r canlynol | cymeriad chwedlonol ym mytholeg y Llychlynwyr |
---|---|
Rhan o | mytholeg y Llychlynwyr |
Aelod o'r canlynol | Ásynjur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym mytholeg Llychlyn, mae'r dduwies Sif (Sif Wallt Euraidd) yn wraig i'r duw Thor.
Fel mae ei gwallt hir euraidd yn awgrymu, roedd hi'n dduwies ffrwythlondeb yn wreiddiol, yn cynrychioli tyfiant aeddfed y ddaear ac yn neilltuol cnydau Awst.
Mae un chwedl yn adrodd sut y bu i Loki (duw maleisus a chyfrwys sydd yn cynrychioli'r gaeaf, efallai, ym mytholeg y Gogledd) dorri gwallt Sif a'i ddwyn i'r Isfyd. Bu ymrafael mawr rhyngddo a Thor wedyn.