Signe Bergman | |
---|---|
Ganwyd | 10 Ebrill 1869 Hedvig Eleonora församling |
Bu farw | 9 Mai 1960 Oscars församling |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, female supporter of women's right to vote, golygydd, trysorydd |
Swydd | Q99231392, aelod o fwrdd |
Plaid Wleidyddol | Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd |
Tad | Johan Wilhelm Bergman |
Ffeminist o Sweden oedd Signe Bergman (10 Ebrill 1869 - 9 Mai 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd Bergman yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw mudiad etholfraint Sweden, os nad efallai'r enwocaf yn ystod ei hoes.
Ganed Signe Wilhelmina Ulrika Bergman yn Hedvig Eleonora församling ar 10 Ebrill 1869; bu farw yn Oscars församling ac fe'i claddwyd ym Mynwent Northern. [1][2][3][4][5][6][7][8]
Roedd yn gadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer y Beidlais i Fenywod (National Association for Women's Suffrage) neu LKPR yn 1914–1917 a dirprwy Sweden i'r Gynghrair Ryngwladol dros Rhoi'r Bleidlais i Fenywod yn 1909–1920. Hi oedd trefnydd cyngres Chweched Cynhadledd y Gynghrair Menywod Difrifol Ryngwladol (International Woman Suffrage Alliance) yn 1911 a golygydd papur y LKPR, Rösträtt för kvinnor (etholfraint y fenyw).
Ganwyd Signe Bergman yn aelod o deulu o swyddogion y llywodraeth yn Stockholm a chafodd addysg dda ond anffurfiol. Treuliodd rai blynyddoedd ym Lloegr, lle bu'n gweithio yn sefydliad ei chefnder Martina Bergman-Österberg, yn ogystal â chynorthwyydd i ymchwilydd yn yr Amgueddfa Brydeinig, cyn iddi ddychwelyd i Sweden, lle bu'n gweithio fel clerc yn y Sveriges allmänna hypoteksbank. Roedd Bergman yn byw ar ei phen ei hun mewn cyfnod pan ystyriwyd ei fod yn fwy addas i fenyw dosbarth canol proffesiynol rannu ei fflat â chydymaith benywaidd! [9][10][11]
Ym 1902, cyflwynwyd dau gynnig ynghylch diwygio'r bleidlais i fenywod yn Senedd Sweden. Roedd y naill gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Hjalmar Hammarskjöld, a awgrymodd y dylid rhoi dwy bleidlais i ddynion priod, gan y gallant bleidleisio dros eu gwragedd hefyd. Cyflwynwyd cynnig arall gan Carl Lindhagen, a awgrymodd rhoi'r bleidlais i fenywod. Cododd awgrym Hammarskjöld gryn dicter ymysg ymgyrchwyr hawliau menywod, a ffurfiodd grŵp i gefnogi cynnig Lindhagen. Ar 4 Mehefin 1902, sefydlwyd Föreningen för Kvinnans Politiska Rösträtt (FKPR): cymdeithas lleol i Stockholm i ddechrau, ond daeth yn sefydliad cenedlaethol y flwyddyn wedyn.
Yn 1911 etholwyd Anna Whitlock i'r gadair gan ei bod yn niwtral oddi wrth unrhyw blaid gwlediddol, ond rhwng 1914 a 1917 Signe Bergman oedd Cadeirydd y gymdeithas; hi hefyd oedd golygydd cylchgrawn y gymdeithas.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd.
183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25"Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.
183,April,10,,1,Signe Wilhelmina Ulrika.....Häradshöfding Johan Victor Bergman o h.h. Gunilda Carolina f. Hultbring, No18 Greffgatan...25"Signe Vilhelmina Ulrika, f. 1869 i Stockholm". Cyrchwyd 16 Ebrill 2018. "Signe Wilhelmina Ulrika Bergman 1869-04-10 — 1960-05-09 Rösträttskvinna". dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2020.