Simethis mattiazzii | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol ![]() | |
Unrecognized taxon (fix): | Simethis |
Rhywogaeth: | S. mattiazzii |
Enw deuenwol | |
Simethis mattiazzii (Vand.) Sacc. | |
Cyfystyron[1] | |
|
Simethis | |
---|---|
Scientific classification ![]() | |
Kingdom: | Plantae |
Clade: | Tracheophytes |
Clade: | Angiosperms |
Clade: | Monocots |
Order: | Asparagales |
Family: | Asphodelaceae |
Subfamily: | Hemerocallidoideae |
Genus: | Simethis |
Species: | S. mattiazzii
|
Binomial name | |
Simethis mattiazzii (Vand.) Sacc.
| |
Synonyms[1] | |
|
Genws o blanhigion yn y teulu Asphodelaceae, is-deulu Hemerocallidoideae yw Simethis . [2] Mae'n cynnwys un rhywogaeth hysbys yn unig, Simethis mattiazzii, a elwir yn gyffredin y Lili Ceri . [1] [3]
Mae'n tyfu mewn mannau sych yn enwedig ger yr arfordir yng Ngorllewin Ewrop ( Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Portiwgal, yr Eidal ) a gogledd Affrica ( Algeria, Moroco, Tunisia ). Mae ei enw cyffredin yn seiliedig ar ei fodolaeth mewn ychydig o safleoedd yn Swydd Kerry, Iwerddon . [1]
Mae Lili Ceri'n blanhigyn lluos-flwydd a all gyrraedd taldra o 25cm. Mae iddynt rhisom fertigol a gwreiddiau tewion. Mae dail y planhigyn yn tyfu o waelod y planhigyn hyd at 30cm: maen't yn fain, llinol fel gwellt, weithiau'n gyrliedig. Nid yw'r fflurgainc yn ganghenog iawn, mae'n unionsyth a gwifrog gydag ychydig o ddail bychain â wiry stem bearing a few small leaves and a loos phigyn o dri i ddeg blodyn â chwech petal. Mae'r blodau'n 2cm o ddiamedr, yn biws-lwyd pan yn flaendardd ac yna'n agor i fod yn flodyn claer-wyn. Mae i'r chwech ystefyn ffilament gwyn gydag antherau melyn ar eu blaenau. Mae'r ffrwyth yn gapsiwl deir-llabed, ac mae'n blodeuo ym misoedd Mai a Mehefin.[4][5]
Mae gan lili Ceri ddosbarthiad gwasgaredig, arfordirol yn bennaf, yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd Affrica. Yr unig le yn Iwerddon (nid yw'n tyfu ym Mhrydain) lle mae i'w gael yw yn Contae Chiarraί (Swydd Kerry) yn ne-orllewin y wlad, lle mae wedi'i gyfyngu i ardal o 20 metr sgcilowar (7.7 mi sgw) o amgylch Derrynane . [6] Mae i'w gael yng ngorllewin Ffrainc, y Pyrenïaid, llain arfordirol Iwerydd gogledd a gorllewin Sbaen a Phortiwgal, llain arfordirol Môr y Canoldir Moroco, Algeria a Thiwnisia, a safleoedd anghysbell yng ngorllewin yr Eidal, Sisili, Corsica a Sardinia. Mewn gwahanol rannau o'i gynefin mae'n byw mewn cynefinoedd glaswelltir a rhostir, maquis (ardaloedd o amgylch Môr y Canoldir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys grychoedd isel bythwyrdd gwydn), prysgdir a choetir corc-derw. Mae'n gyffredin ar lain Iwerydd Ewrop ond yn brin mewn llawer o'r lleoliadau gwasgaredig eraill y mae'n tyfu ynddynt. [5]
Mae gan y planhigyn hwn ddosbarthiad creiriol, a de-orllewin Iwerddon yw ei rychwant mwyaf gogleddol. Fe'i cofnodwyd yn Dorset yn ne Lloegr, ond ymddengys ei fod bellach wedi darfod yno. Mae'n fwy cyffredin yn Llydaw a Dyffryn Loire, ac ochrau gogleddol y Pyrenïaid ond yn llawer prinnach ymhellach i mewn i'r tir. Mae hefyd yn gyffredin yn llain arfordirol Penrhyn Iberia, ac fe'i darganfuwyd yn tyfu ar ynys Marettimo, Sisili, am y tro cyntaf yn 2012. Mae poblogaeth Gogledd Affrica yn dameidiog iawn. [5]