Sion Trevor | |
---|---|
Ganwyd | 1563 Yr Orsedd |
Bu farw | 1630 |
Dinasyddiaeth | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Aelod o Senedd 1604-1611, Member of the 1614 Parliament, Member of the 1621-22 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625 |
Tad | Sion Trefor |
Mam | Mary Bruges |
Plant | John Trevor |
Gwleidydd ac Archwiliwr Llongau Brenhines Lloegr oedd Sion Trefor I (hefyd, yn ddiweddarach: John Trevor; 1563– 2 Chwefror 1630)[1], sef ail fab Sion Trefor (m. 1589), milwr, uchelwr a gododd Trefalun ger Wrecsam. Gan mai i'r mab hynaf, Richard Trefor (1558 - 1638) yr aeth Trefalun, cododd John Trefor I faenordy iddo'i hun, sef Plas Teg, ger Yr Hôb, Sir y Fflint heddiw.
Priododd Margaret Trevanion (1565 - 1646), merch o Gernyw a chawsant 7 o blant: John (1596-1673), Anne, Jane, Elizabeth, Charles, William a Richard (m. 1676). Claddwyd tri o'i blant yn Eglwys Weybridge rhwng 1590 a 1605.
Prynnwyd safle Plas Teg gyda hen faenordy arno'n barod, ond ailgododd John Trefor blasty ar y safle yn 1590; ystyrir Plas Teg, heddiw, yn un o faneordai Jacobitaidd pwysicaf Cymru sydd. Mae wedi'i gofrestru gan Cadw ers Chwefror 1952 yn Radd I (rhif cofrestriad: 7).[2]
Ei brif noddwr ef a'i frodyr oedd Howard o Effingham (Charles Howard, Iarll 1af Nottingham). Bu'n Aelod Seneddol ar sawl achlysur: Reigate yn 1593 a 1601 a hefyd Bletchingley yn 1597, 1604, ac yn 1614. Yn 1598 daeth yn 'Archwiliwr Llongau'r Frenhines' a gwnaed ef yn Farchog yn 1603. Etholwyd ef yn AS dros Bodmin yn 1625.
Bu ei fab, John Trevor (1596–1673), hefyd yn AS.
Claddwyd ef a'i wraig Margaret yn Eglwys Sant Cynfarch, yr Hôb, milltir o'u cartref.[3]
Ceir sawl aelod dylanwadol iawn o'r teulu gan gynnwys (yn nhrefn dyddiad marw):