Roedd Sir Feirionnydd yn un o 13 o siroedd Cymru cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Roedd yn cynnwys hen gantrefi Ardudwy (cymydau Uwch Artro ac Is Artro), Meirionnydd (cymydau Tâl-y-bont ac Ystumanner), a Phenllyn (Cymydau Edeirnion, Is Tryweryn, ac Uwch Tryweryn) Ym 1536 symudwyd cwmwd Mawddwy o Sir Drefaldwyn i Feirionnydd. Ym 1895 symudwyd plwyf Nantmor o Feirionnydd i Sir Gaernarfon.[1] Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen sir yn rhan o Wynedd, gyda chwmwd Edeirnion yn rhan o Sir Ddinbych.
- Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail-argraffiad, 1976). Yr atlas hanesyddol safonol ar gyfer yr hen sir.