Math o gyfrwng | cynorthwyydd rhithwir, meddalwedd perchnogol, cynorthwydd medalwedd rhithwir, voice assistant |
---|---|
Crëwr | Apple Inc. |
Iaith | Saesneg, Ffrangeg, Rwseg, Almaeneg, Japaneg, Coreeg, Tsieineeg, Eidaleg, Sbaeneg, Iseldireg, Tai, Portiwgaleg, Norwyeg, Daneg, Tyrceg, Swedeg, Arabeg, Ffinneg, Maleieg, Hebraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 9 Awst 2011 |
Dechrau/Sefydlu | 2011 |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Sylfaenydd | Apple Inc. |
Gwefan | https://www.apple.com/siri/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Siri yw rhith-gynorthwyydd Apple, a lansiwyd ym mis Hydref 2011. Mae ar gael ar ddyfeisiau Apple TV, Mac ac iOS (iPhone, iPad ac iPod Touch).
Sefydlwyd Siri yn yr Unol Daleithiau fel rhan o brosiect CALO.[1] Ystyr yr enw "Siri" yw "menyw hardd sy'n eich arwain at fuddugoliaeth" yn Norwyeg.[2]
Yn Saesneg, gall Siri siarad mewn chwe acen wahanol; acen Americanaidd, Awstralianidd, Seisnig, Indiaidd, Gwyddelig a De Affricanaidd. Fodd bynnag, gall gydnabod lleisiau Americanaidd, Awstralaidd, Canadaidd, Prydainaidd, Indiaidd, Gwyddelig, Seland Newydd, Singapôraidd a De Affricanaidd. Er gwaethaf hyn, mae defnyddwyr Siri wedi nodi anhawster siarad â Siri wrth ddefnyddio acen Seland Newydd, Pacistanaidd, Singapôraidd, yr Albanaidd neu Gymrieg.