Siân Melangell Dafydd

Siân Melangell Dafydd
Ganwyd28 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol St Andrews Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, llenor Edit this on Wikidata

Bardd o Llwyneinion ger y Bala, Gwynedd, yw Siân Melangell Dafydd (ganed Ebrill 1977). Ffug enw: "Mynydd Segur", sef cam-gyfieithiad o Montségur, Ariège, yn rhanbarth Midi-Pyrénées, Ffrainc (castell Cathar nid nepell o'r lle bu'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o nofel ddiweddar).

Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, y Bala, ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich.

Cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith yn 2009 iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher. Y beirniaid yn y Bala oedd Manon Rhys, Tony Bianchi, ac Elwyn Ashford Jones.

Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis. Golygydd y cylchgrawn Taliesin oedd hi.

Yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor,[1] yn 2024 arweiniodd gyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau dan enw Coel Gwrach ar wrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar ac yn benodol ar dreialon, cyhuddiadau, ac erlyniadau pum person a ddienyddwyd ar gyhuddiad o fod yn "wrachod".[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Llyfrau gwreiddiol

[golygu | golygu cod]

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Enillydd y Fedal Ryddiaith

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Siân Melangell Dafydd". Prifysgol Bangor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-12. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
  2. "Coel Gwrach". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2024.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]