Siôn Dafydd Rhys | |
---|---|
Ganwyd | c. 1534 Llanfaethlu |
Bu farw | c. 1620 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, gramadegydd |
Hynafiaethydd, ysgolhaig a meddyg o Gymru oedd Siôn Dafydd Rhys neu John Davies (1534 - tua 1619). Roedd yn nai i'r Esgob Richard Davies. Mae'n un o'r ysgolheigion mwyaf diddorol yng nghyfnod y Dadeni yng Nghymru. Er nad yw'n cael ei gyfrif fel ysgolhaig gorau'r cyfnod, ystyrir ei Gymraeg yn "gampus".[1] Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gyfrol Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta.
Ganed Siôn Dafydd Rhys ym mhlwyf Llanfaethlu, Ynys Môn, ym 1534. Cafodd ei addysg brifysgol yn Eglwys Crist, Rhydychen ac ar y cyfandir lle enillodd gradd Meistr Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Siena yn yr Eidal ym 1567.
Ar ôl dychwelyd i Gymru fe'i apwyntiwyd yn brifathro Ysgol Friars, Bangor. Yn ddiweddarach gweithiodd fel meddyg yng Nghaerdydd a Brycheiniog, lle ymsefydlodd yn ardal Cwm Llwch.
Cynorthwyodd yn y gwaith o gyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg, ond ar ôl cyfnod byr fel Protestant dychwelodd i ffydd yr Eglwys Gatholig.
Cyhoeddodd sawl llyfr yn cynnwys llyfrau gramadeg ac ieithyddol yn Lladin ac Eidaleg, a gyhoeddwyd yn yr Eidal. Ond ei lyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol oedd ei Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones et Rudimenta (1592), sy'n ymdrîn â gramadeg Cymraeg a rheolau Cerdd Dafod: arhosodd y gyfrol yn llawlyfr bwysig ar y pwnc olaf am gyfnod hir ac roedd Goronwy Owen ymhlith y rhai a fu'n ddyledus iddi am eu gwybodaeth o reolau'r canu caeth. Mae'n llyfr pwysig hefyd am iddo gyflwyno yn y Lladin, iaith ddeallusol ryngwladol y cyfnod, ran o gyfoeth y Traddodiad Barddol Cymraeg.
Un o'i ddiddordebau mawr oedd llên gwerin Cymru. Casglodd draddodiadau am gewri Cymru fel Idris Gawr a Rhita Gawr ar gyfer ei draethawd 'Olion Cewri'. Ysgrifennodd draethawd ar hanes cynnar Prydain hefyd, er mwyn ceisio amddiffyn ffug hanes Sieffre o Fynwy.