Math | pentref, pentref yn nhalaith Efrog Newydd |
---|---|
Poblogaeth | 9,986 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Westchester County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 13.371067 km², 13.156135 km² |
Uwch y môr | 27 metr |
Cyfesurynnau | 41.0919°N 73.8644°W |
Cod post | 10591 |
Pentref yn nhref Mount Pleasant, Westchester County, Efrog Newydd yw Sleepy Hollow. Lleorir ar lan ddwyreiniol Afon Hudson, tua 30 milltir i'r gogledd o ganol Manhattan yn Ninas Efrog Newydd. I'r de o Sleepy Hollow mae pentref Tarrytown.
Ers diwedd y Chwyldro Americanaidd hyd ei chorffori, enw'r pentref oedd Beekmantown, corfforwyd yn 1874 fel "North Tarrytown", a newidioedd ei enw'n swyddogol i "Sleepy Hollow" ym mis Mawrth 1997. Roedd poblogaeth o 9,212 yn ystod cyfrifiad 2000, ac amcangyfrwyd poblogaeth o 10,124 yn 2006.[1]
Sleepy Hollow yw lleoliad stori ysbryd enwog Washington Irving, The Legend of Sleepy Hollow, a lleoliad Sleepy Hollow Cemetery, lle claddwyd Irving ynghyd ag Andrew Carnegie, Walter P. Chrysler, Brooke Astor, Elizabeth Arden, Thomas J. Watson o IBM a nifer o enwogion eraill. Lleolir Philipsburg Manor a Hen Eglwys Iseldiraidd Sleepy Hollow yn y pentref yn ogystal.
Roedd y pentref yn lleoliad ffatri gysodi Chevrolet, General Motors hyd 1996. Fe gafodd cau'r ffatri gryn effaith ar economi'r ardal. Mae'r safle heddiw'n cael ei ail-ddatblygu ar gyfer adeiladu cartrefi a siopau adwerthu,[2] er fod pentref Tarrytown ger llaw wedi elyn dros bryderion ynglŷn â thraffig, parcio ac effaith amgylcheddol y cynllun.[3]