Sleifio ar drên

Dau hobo yn cerdded ar hyd traciau rheilffordd

Yr arfer o deithio fel lleidr ar gar nwyddau rheilffordd yw sleifio ar drên[1] neu deithio ar y wagen[2] (Saesneg Americanaidd: freighthopping). Yn yr Unol Daleithiau, wrth i'r rheilffyrdd cael eu hadeiladu tuag at y gorllewin ar ôl Rhyfel Cartref America, roedd hyn yn fodd cyffredin o deithio yn enwedig gan weithwyr ymfudol a gafodd eu galw'n hobos. Roedd yn boblogaidd iawn yn ystod y Dirwasgiad Mawr wrth i bobl deithio i chwilio am waith. Heddiw, mae sleifio ar drenau yn erbyn y gyfraith ym mhob un o daleithiau'r Unol Daleithiau ac fe'i ystyrir yn ffurf o dresmasu. Mae nifer o reilffyrdd yn cyflogi heddlu rheilffordd i atal yr arfer.

Mae sleifio ar drên yn weithgaredd peryglus. Collodd y llenor W. H. Davies ei goes wedi i'w droed dde gael ei fathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 691 [to hop a ride, to hop a train].
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 571 [to ride freight].
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.