Slim Amamou | |
---|---|
Ganwyd | 8 Tachwedd 1977 Tiwnis |
Dinasyddiaeth | Tiwnisia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | blogiwr, gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Pirate Party |
Gwefan | https://nomemoryspace.wordpress.com/ |
Blogwr ac actifydd rhyngrwyd o Diwnisia yw Slim Amamou (ganwyd 8 Tachwedd 1977). Roedd yn un o sefydlwyr y Partie Pirate Tunisien (Plaid Beirat Tiwnisia), sy'n aelod o'r Pleidiau Peirat Rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Weinidog Ieuenctid a Chwaraeon yn llywodraeth dros dro Tiwnisia.
Yn blogio wrth yr enw "Slim 404" (cyfeiriad slei at "Ammar 404"), mae'n un o flogwyr mwyaf adnabyddus Tiwnisia, yn enwedig fel golygydd ReadWriteWeb, a chafodd sylw ehangach pan gafodd ei arestio gan lywodraeth Zine el-Abidine Ben Ali ar 6 Ionawr 2011 yn ystod y 'Chwyldro Jasmin'.[1]. Daeth yr heddlu cudd i'w gartref yn Tunis i'w arestio am 1330 ar y 6ed o Ionawr. Roedd eisoes wedi rhybuddio ei ffrindiau eu bod yn gwylio ei gartref. Trwy ddilyn ei alwad ffôn olaf, darganfuwyd iddo wneud hynny yn adeilad y Ministère de l'intérieur ar Avenue Habib Bourguiba, Tunis.[2] Cafodd ei ddal yno am rai dyddiau a bu ymgyrch rhyngwladol gan ei gyfeillion y tu allan i Tiwnisia i sicrhau ei ryddid.
Ar ôl i Zine el-Abidine Ben Ali, cyn arlywydd Tiwnisia, ffoi o'r wlad rhoddwyd lle i Slim Amamou yn y 'llywodraeth undeb cenedlaethol' a ffurfwyd gan Mohamed Ghannouchi.[3]. Dyma'r tro cyntaf erioed i aelod o un o'r pleidiau peirat gael sedd mewn llywodraeth.