Sognefjord yw'r Fjord hiraf a dyfnaf yn Norwy.[1] Lleolir Sognefjord yn swydd Vestland; mae’n 205 cilomedr o hyd, o’r môr i bentref Skjolden.[2] Mae’r fjord yn ardal Sogn.[3]
Mae’r fjord yn pasio trwy Solund, Gulen, Hyllestad, Høyanger, Vik, Sogndal, Lærdal, Aurland, Årdal, a Luster ac yn cyrraedd dyfnder o 1308 medr ger Høyanger.[4][5] Mae dyfnder y fjord dros 1000 medr o Rutledal i Hermansverk, tua 100 milltir. Mae aber y fjord yn fas, tua 100 medr o dan lefel y môr. Mae haen trwchus o waddod ar waelod y fjord. Lled mwyaf y fjord yw 6 cilomedr.[6] Mae clogwyni bron unionsyth yn codi i uchder o 1000 medr. Mae sawl fjord arall, megis Aurlandsfjord yn ymuno â Sognefjord. Mae ambell swnt a nifer o ynysoedd, gan gynnwys Sula Losna a Hiserøyna, rhai ohonynt yn greigiog yn ymyl aber Sognefjord.[7]. Tu ôl i’r fjord, mae mynyddoedd tua 1000 medr o uchder a rhewlif Jostedalsbreen, yr un mwyaf ar gyfandir Ewrop. Mae’r mynyddoedd Hurrungane yn cyrraedd o uchder. Mae nifer o afonydd yn llifo i’r fjord. Ac mae’r mewnlif ar ei fwyaf ym Mehefin.[8]. Mae’r fjord yn mynd trwy graig Gneis.[9]
Lustrafjord yw’r un bellaf o’r aber, yn ardal Luster. Ar ben Lustrafjord mae’r pentref Skjolden o le mae’n bosibl cyrraedd Parc Cenedlaethol Jotunheimen. Amser maith yn ôl, buasai drafic rhwng Bergen a Skjolden ar gychod ac wedyn ar ffordd dros y mynyddoedd. Erbyn hyn mae ffordd sir 55 yn cyrraedd Skjolden, ac mae ffordd E16 yn cyrraedd yr ardal o Oslo.
Mae’r dyffryn yn hŷn na’r bedwaredd oes iâ, ond cafodd lethrau graddol.[10] Gogwyddodd y tir yn ddwyreiniol, a thorrodd afonydd ddyfnaint ar eu ffordd i’r gorllewin.[11][12].Dilynodd yr erydiad gan afonydd a rhewlifau wendidau crawen y ddaear.[13] Yn ystod yr oes iâ ddiwetharaf, cyrhaeddodd yr iâ ddyfnder o 3000 medr. Hyd at 30 cilomedr o’r arfordir, cedwyd rhewlif Sognefjord i’w sianel gul o haenithfaen, ond ehangwyd yn agosach i’r môr.[14]
Mae cychod yn cysylltiad rhwng pentrefi’r fjord, gan gynnwys Leirvik, Ytre Oppedal, Vadheim, Høyanger, Vikøyri, Balestrand, Hermansverk, Sogndalsfjøra, Gudvangen, Flåm, Aurlandsvangen, Lærdalsøyri, Årdalstangen, Gaupne a Solvorn. Mae Gudvangen ar lan Nærøyfjord, sy’n fjord arbennig o fawreddog. Mae Nærøyfjord a Geirangerfjord yn Safle UNESCO Dreftadaeth y byd. Mae Rheilffordd Flåm yn cysylltu Sognefjord â gweddill rheilffyrdd Norwy, yn dringo 864 medr dros 20 cilomedr rhwng Flåm a Myrdal.[15] Mae 3 eglwys erwydd yn yr ardal, yn Kaupanger, Urnes a Borgund.
Mae cynllun adeiladu twnnel gyda ffordd ar draws Sognefjord.[16][17]
Mae sawl fferi ar draws y fjord, gan gynnwys MV Ampere, fferi batri-trydanol cyntaf y byd, rhwng Lavik ac Ytre Oppedal.[18]