poster ffilm wreiddiol | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Ralph Nelson |
Cynhyrchydd | Gabriel Katzka Harold Loeb |
Ysgrifennwr | Theodore V. Olsen |
Serennu | Candice Bergen Peter Strauss Donald Pleasence |
Cerddoriaeth | Roy Budd |
Sinematograffeg | Robert B. Hauser |
Dylunio | |
Dosbarthydd | AVCO Embassy |
Dyddiad rhyddhau | 12 Awst, 1970 |
Amser rhedeg | 112 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Soldier Blue yn ffilm Western Americanaidd a gynhyrchwyd yn 1970, wedi ei chyfarwyddo gan Ralph Nelson, sy'n adrodd hanes ffuglennol digwyddiadau yn 1864 seiliedig ar hanes gwir Cyflafan Sand Creek yn Nhiriogaeth Colorado, UDA.
Sgriptiwyd y ffilm gan John Gay yn seiliedig ar y nofel Arrow in the Sun gan Theodore V. Olsen, ac mae'n serennu Candice Bergen, Peter Strauss, a Donald Pleasence. Perfformiwyd y gân deitl gan Buffy Sainte-Marie.
Wedi ei rhyddhau ar anterth Rhyfel Fietnam yn erbyn cefndir y achos tribiwnlys milwrol yn deillio o Gyflafan My Lai, cyflwynodd y ffilm yr adroddiad sinematig cyntaf o un o'r digwyddiadau mwyaf drwgenwog yn hanes rhyfeloedd yr Unol Daleithiau ar bobloedd brodorol Gogledd America, pan gyflawnodd milwyr yn perthyn i filisia talaith Colorado dan arweiniad y Colonel John M. Chivington gyflafan yn erbyn pentref diamddiffyn o bobl Cheyenne ac Arapaho ar wastadeddau dwyreiniol Colorado. Lladdwyd rhai cannoedd o Indiaid, y rhan fwyaf ohonynt yn ferched, plant a henoed.
Mae hanes y gyflafan yn cael ei osod ar gefndir ffuglennol am hanes goroeswyr ymosodiad gan Indiaid ar uned o filwyr Marchoglu'r Unol Daleithiau.
Roedd y ffilm yn ddadleuol ar y pryd nid yn unig oherwydd ei phwnc fel revisionist Western, ond am ei phortread graffig iawn o drais. Aeth y cyfarwyddwr Nelson, sy'n ymddangos yn y ffilm ei hun, i lefelau newydd amlwg yn ei bortread o drais, gan ddangos golygfeydd o drais rywiol realistig ynghyd â golygfeydd brwydr sy'n dangos bwledi'n taro cyrff a merched a phlant yn cael eu cigyddu'n ddidrugaredd gan filwyr.
[[Delwedd:Pstrauss.png|bawd|Peter Strauss [[Delwedd:Jrivero.png|bawd|Jorge Rivero