![]() | |
Math | siop recordiau, busnes ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Arcêd Morgan ![]() |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.47879°N 3.17707°W ![]() |
![]() | |
Spillers Records neu Recordiau Spillers, a sefydlwyd yn 1894, yw'r siop recordiau hynaf yn y byd,[1] ac wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Yn ogystal â gwerthu cerddoriaeth mae'r siop yn brif leoliad ar gyfer gwerthu tocynnau i gyngherddau cerddoriaeth amgen.
Sefydlwyd Spillers yn 1894 gan Henry Spiller yn ei leoliad gwreiddiol yn Arcêd y Frenhines, lle'r oedd y siop yn arbenigo mewn gwerthu ffonograffau, silindrau cwyr a disgiau sielac. Yn y 1920au cynnar, pasiodd Spiller reolaeth o'r busnes i'w fab Edward a gyda chefnogaeth yr arweinydd band a chanwr acordion poblogaidd Joe Gregory, gwerthwyd offerynnau yn ogystal â cherddoriaeth ar record. Yn y 1940au symudodd Henry'r siop rownd y gornel i adeilad mwy ar yr Aes.
Yn y 1970au roedd Nick Todd yn DJ a chwsmer rheolaidd yn y siop a daeth yn rheolwr y siop yn Ionawr 1975 cyn prynu'r busnes yn 1986. Yn 2006 roedd Todd yn bwriadu gwerthu'r busnes fel rhan o setliad ar ôl ysgaru.[2] Ar yr un pryd roedd ardal yr Aes yn cael ei ail-ddatblygu a roedd landlord safle'r siop, Helical Bar am gynyddu rhent yr adeilad. Cychwynnwyd ymgyrch leol i achub y siop, yn cynnwys deiseb gan Owen John Thomas (Aelod Cynulliad dros Ranbarth De Cymru ar y pryd), a fe'i cefnogwyd gan aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y Manic Street Preachers a Columbia Records.[3]
Yn Rhagfyr 2009 daeth les y siop i ben unwaith eto a roedd perchennog yr adeilad yn gofyn am godiad rhent. Gan nad oedd y siop yn gallu fforddio talu y rhent uwch, fe roddwyd cyfnod o 6 mis i'r siop ddod o hyd i leoliad newydd.[4] Caewyd yr hen siop yn Mehefin 2010 ac yn Gorffennaf, symudodd Spillers i safle newydd yn Arcêd Morgan gerllaw, am gyfnod prawf i ddechrau i gael gweld os fyddai'n llwyddiannus. Fe basiodd Nick yr awenau i'w ferch Ashli sydd nawr yn berchen y busnes ynghyd a'i chwaer Grace.[5]
|