Srugim | |
---|---|
Genre | drama |
Gwlad/gwladwriaeth | Israel |
Iaith/ieithoedd | Hebraeg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 45 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Abut-Barkai Productions |
Amser rhedeg | 40 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Yes TV, Amazon Prime |
Darllediad gwreiddiol | 2008 – 2012 |
Roedd Srugim (Hebraeg: סרוגים; llythrennol, "gwëwyd" neu "wedi ei crosio") yn ddrama a ddarlledwyd mewn 3 cyfres ar deledu Israel Yes TV rhwng 2008 a 2012 ac sydd bellach i'w gweld ar rwydweithiau ffrydio rhyngwladol fod Amazon Prime ym y Deyrnas Unedig.
Cyfarwyddwyd y gyfres gan Eliezer "Laizy" Shapiro, a gyd-greodd y sioe gyda Havvah Deevon. Roedd y gyfres yn torri tir newydd wrth iddi ddilyn hynt a helynt tair dynes a dau ddyn sengl crefyddol uniongred yn ei tridegau cynnar yn Jeriwsalem sy'n ceisio canfod cariad a chymar i'w priodi.[1] Mae teitl y gyfres yn gyfeiriad at fersiwn wedi ei weu o'r 'kippa' - y capiau penglog bychan sy'n arwydd bod y gwisgwr yn credwr uniongred yn y ffydd Iddewig.[2] Mae hefyd yn gyfeiriad at natur glos mae'r gymuned, a'r cymeriadau, wedi eu cyd-weu.
Roedd y gyfres yn trafod rhyw, priodas, perthynas, gwrwgydiaeth, colli ffydd a'r byd seciwlar sy'n rhan o'r gymuned grefyddol Seionistaidd Iddewig yn Israel gyfoes, a hynny mewn ffordd naturiol. Achosodd llawer o drafod yn Israel ond derbyniodd ffigurau gwylio uchel gan aelodau'r gymuned grefyddol a seciwlar yn y wlad [3] a gan Iddewon Americanaidd.[4] Cymharodd nifer o'r Iddewon Americanaidd y cymeriadau yn y gyfres i'r gymuned Iddewig sy'n byw yn yr Upper West Side yn Efrog Newydd.[5]
Enillodd y gyfres 5 Gwobr Academi Ffilm a Theledu Israel. Er gwaethaf galwadau am bedwaredd gyfres, cyhoeddwyd na fyddai chyfres arall i fod.[6]
Mae Yifat ac Hodaya, yn ddwy ferch a aeth i ysgol merched-yn-unig gyda'i gilydd ac nawr yn rhannu fflat yn ardal Katamon ("y gors" ar lafar) sydd yn faestref yng nghanol Jeriwsalem ac agos i'r hen ddinas, nid annhebyg i Bontcanna yng Nghaerdydd. Mae Yifat yn cwrdd â Nati, oedd y ffrind iddi pan oedd yn blentyn, ac sydd nawr yn feddyg llwyddiannus yn yr ysbyty. Mae Nati yn cyflwyno'r ddwy ddynes i'w gyd-breswylwr, Amir, athro ysgol a dyn uniongred ond sydd newydd ysgaru. Mae Reut, cyfrifydd sy'n ennill cyflog da ac sy'n ffeminydd crefyddol a phendant ei barn, yn ymuno â'r cylch bychan.
Maent ill pump yn Seionistiaid Asgell Dde di-briod yn eu hugeiniau hwyr neu tridegau cynnar. Maent yn ceisio canfod cariad a chymar ac yn gwneud hynny yng nghyd-destun crefyddol (sy'n rhoi pwys mawr ar briodas a magu phlant) temtasiynau'r byd seciwlar a hefyd brawdoliaeth a chwaeroliaeth y gymuned Uniongred.
Ceir cyfres ddrama Israeli arall sy'n ymwneud â bywydau a charwriaethau Iddewon crefyddol sef, Shtisel. Yn achos Shtisel, mae'r gymuned yn un Hasidig ac felly'n fwy ceidwadol na rhai Srugim.