Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 724 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | ![]() ![]() |
Gerllaw | Afon Kammel ![]() |
Cyfesurynnau | 50.526°N 4.764°W ![]() |
Cod SYG | E04011565, E04002308 ![]() |
Cod OS | SX041732 ![]() |
Cod post | PL30 ![]() |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, ydy St Mabyn[1] (Cernyweg: y pentref = S. Mabon; y plwyf sifil = Pluwvabon).[2] Fe'i lleolir rhwng Wadebridge a Gwaun Bodmin. Yn 2001 roedd 560 o drigolion wedi'u cofrestru yno.[3]
Enwyd y pentref ar ôl y duw Celtaidd Mabyn neu Mabena neu o bosib Mabon. Dywedir fod Mebyn yn un o 24 o blant Brycheiniog. Cafodd Mabyn ei rhestru gan yr Eglwys yn Lloegr fel santes yn 1234.
Dyma'r unig bentref yn y pwlyf a cheir nifer o dai urddasol (16 1c 17g) gerllaw, gan gynnwys: Tregarden, Tredethy, Helligan a Colquite.
Mae'r eglwys ei hun, sydd o'r un enw a'r pentref wedi ei restru yn Gradd 1 ac wedi ei godi yn y 15g.
Ymddengys yr enw am y tro cyntaf yn Bywyd Saint Nectan a sgwennwyd yn y 12g yn Tintagel, Dyfnaint. Credir fod Nectan hefyd yn fab i Frycheiniog. Merch ydy hi ers canrifoedd ond cred y rhan fwyaf o ysgolheigion megis Sabine Baring-Gould mai dyn ydoedd ac i'r stori wrieddiol am Fabon (brawd Sant Teilo) newid gan fynd yn anghof a'r Sant droi yn Santes.