![]() | |
Enghraifft o: | cadwyn o dai bwydydd parod, menter ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 28 Awst 1965 ![]() |
Sylfaenydd | Fred DeLuca, Peter Buck ![]() |
Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat ![]() |
Cynnyrch | brechdan, salad ![]() |
Pencadlys | Milford ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://subway.com ![]() |
![]() |
Mae Subway yn gadwyn bwytai rhyngwladol sy'n gwerthu brechdanau yn bennaf. Fe'i hagorwyd fel "Pete's Super Submarines"[1] yn Bridgeport, Connecticut, UDA, ym 1965 ac agorodd ei ail leoliad ym 1974, hefyd yn Connecticut. Ers hynny mae wedi ehangu i ddod yn fasnachfraint fyd-eang.
Nid cwmni Subway sy'n berchen ar y bwytai, yn hytrach, mae'n defnyddio systemmasnachfraint, gyda chwmnïau llai yn berchen ar fwytai unigol.
Canfu llys yn Iwerddon mai nid "bara" yw'r hyn a geir mewn brechdanau Subway, oherwydd ei fod yn cynnwys hyd at 10% siwgr.[2] Yn 2021, aethpwyd â Subway i'r llys gan ymgyrchwyr oedd yn honni nad oedd tiwna i'w gael yn eu brechdanau "tiwna" - ymatebodd Subway gan greu gwefan arbennig o'r enw Subway Tuna Facts[3].