Sulien | |
---|---|
Ganwyd | 1011, 1012 Llanbadarn Fawr |
Bu farw | 1091 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad, Esgob Tyddewi, person dysgedig |
Cysylltir gyda | Llanbadarn Fawr |
Plant | Rhygyfarch ap Sulien |
Roedd Sulien (c. 1010 - 1091) yn ysgolhaig Cymreig ac yn Esgob Tyddewi.
Roedd Sulien, sy'n gysylltiedig yn bennaf a chlas Llanbadarn Fawr, yn enwog am ei ysgolheictod. Bu ganddo bedwar mab, sef Rhygyfarch, Daniel, Ieuan ac Arthan, a pharhawyd traddodiad Llanbadarn o ysgolheictod ganddynt hwy a chan ei meibion hwythau.
Mae'r wybodaeth am Sulien yn dod o gerdd Ladin a ysgrifennodd ei fab Ieuan iddo. Dywed fod Sulien o dras bonheddig, a'i fod wedi treulio tair blynedd ar ddeg yn astudio yn Iwerddon. Bu'n Esgob Tyddewi ddwywaith, o 1073 hyd 1078 ac yna o 1080 hyd 1085. Mae'n ymddangos fod y pentref Tresillian yng Nghernyw wedi'i enwi ar ei ôl, neu ar ôl y sant o'r un enw.