Sumaya Farhat Naser | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Mehefin 1948 ![]() Bir Zait ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ymgyrchydd heddwch ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Hermann Kesten, Gwobr Bruno Kreisky ![]() |
Actifydd heddwch, Cristnogol o Balesteina ywSumaya Farhat Naser (Arabeg: سمية فرحات ناصر; ganwyd 11 Mehefin 1948 yn Bir Zeit) yn yn y Lan Orllewinol.
Mynychodd Talitha Kumi, ysgol breswyl yn Beit Jala a sefydlwyd gan ddiaconesau Lutheraidd yn y 19g. Ar ôl ennill ei chymhwyster mynediad prifysgol, astudiodd fywydeg, daearyddiaeth ac addysg ym Mhrifysgol Hamburg, yr Almaen a derbyniodd ddoethuriaeth mewn botaneg gymhwysol.
Rhwng 1982 a 1997 roedd hi'n ddarlithydd prifysgol mewn botaneg ac ecoleg ym Mhrifysgol Birzeit i'r gogledd o Ramallah, Palesteina. Rhwng 1997 a 2001 hi oedd rheolwr Canolfan Menywod Jeriwsalem, Palestina, gan weithio dros heddwch ochr-yn-ochr gyda'r grŵp Israelaidd Bat Shalom.
Mae Sumaya Farhat-Naser yn adnabyddus am fynegi ei barn yn glir ar y cyfryngau, ac yn arbennig am ei phrosiectau amrywiol, lle mae'n cymell menywod Palesteinaidd i weithio ar ddatrysiad heddychlon i'r gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina.