SuperTed

SuperTed
Fformat Cyfres animeiddiedig
Crëwyd gan Mike Young
Lleisiau Geraint Jarman
Martin Griffiths
Valmai Jones
Gari Williams
Huw Ceredig
Emyr Young
Adroddwyd gan Dyfan Roberts
Gwlad/gwladwriaeth y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Cymraeg, Saesneg
Nifer penodau 36
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 10 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 1 Tachwedd 1982
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb
Proffil TV.com

Cyfres deledu Gymraeg wedi ei hanimeiddio yw SuperTed, a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982. Fe'i cynhyrchwyd gan gwmni Siriol ar gyfer S4C (lle cafodd ei ddybio'n Gymraeg), ac yn ddiweddarach, cafodd ei darlledu yn y Saesneg gwreiddiol ar BBC1, ac wedi ei ddybio yn Wyddeleg ar TG4. Enillodd y gyfres amryw o wobrwyau, gan gynnwys BAFTA ar gyfer yr animeiddio gorau yn 1987.

Creadigaeth Mike Young ydy SuperTed. Mae Young yn gweithio yng Nghaliffornia, yr Unol Daleithiau erbyn hyn, ynghyd â'i wraig, Liz. Crewyd SuperTed fel stori amser gwely ar gyfer ei lys-fab, yr oedd arno ofn y tywyllwch. Ail-adroddodd ei lys-fab y straeon pan gyrhaeddodd yr ysgol feithrin a dechreuodd gyrfa newydd Young.[1]

Mae pob pennod o'r gyfres yn dechrau gyda hanes sut daeth SuperTed i fod yn fyw: Roedd yn arth mewn ffatri degannau lle canfuwyd ei fod yn ddiffygol a'i daflu i ffwrdd mewn storfa yn y selar. Fe'i darganfuwyd gan Smotiog yno a daeth yntau ag ef i fywyd gyda'i 'lwch hudol'. Yn ddiweddarach, cymerwyd ef at Mam Natur a rhoddwyd pŵerau hudol iddo a oedd yn ei alluogi i ymladd yn erbyn drygioni. Mae'r drwg fel arfer yn dod ar ffurf Dai Texas (cowboi drwg) a'i gang: Clob (ffŵl tew) a Sgerbwd (sgerbwd anfarwol sy'n gwisgo sliperi pinc). Mae cynllwyniau Dai Texas fel arfer wedi'u hanelu at gynyddu ei gyfoeth, rheoli'r byd, neu ddinistrio SuperTed.

Llyfr Superted yn y Gofod (1980)

Gweithredir pŵerau SuperTed gan "air hud cyfrinachol", mae SuperTed yn ei sibrwd pob tro mae ef neu rywun arall mewn trafferth, ac mae'n trawsnewid i wisg coch tegyg i Superman, gyda rocedi ar waelod ei esgidiau sy'n ei alluogi i hedfan.

Fersiwn Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn y cyfresi wreiddiol cynhyrchwyd rhwng 1982 a 1986 roedd y teitlau a'r stori yn cael ei leisio gan Dyfan Roberts.[2] Yn y cyfres "Anturiaethau Pellach" (1989) roedd yna gân agoriadol newydd yn cael ei ganu gan Bryn Fôn. Roedd yna griw o actorion craidd yn lleisio'r cymeriadau:

Cymeriad Actor (1982-1986) Actor (1989)
Arwyr
SuperTed Geraint Jarman
Smotyn Martin Griffiths
Mam Natur / Gwen Valmai Jones
Dihirod
Dai Tecsas Gari Williams ?
Clob Huw Ceredig Phil Reid
Sgerbwd Emyr 'Glasnant' Young

SuperTed yn America

[golygu | golygu cod]

Yn 1984, SuperTed oedd y gyfres cartŵn gyntaf o Brydain i gael ei darlledu ar The Disney Channel yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd cyfres SuperTed ei hadfer yn yr Unol Daleithiau gan Hanna Barbera yn 1992 (cwmni a ddarlledodd Fantastic Max hefyd, un o weithiau eraill Mike Young), y tro yma o dan y teitl The Further Adventures of Superted. Dim ond Jon Pertwee a ddychwelodd o'r cast gwreiddiol i leisio cymeriad Smotyn. Cymerodd y gyfres newydd fformat mwy epig, gan rannu'r straeon yn aml rhwng dwy bennod. Mae sawl dihirod newydd yn ymuno yn y stori a cafwyd gwared ar y gerddoriaeth wreiddiol o ffafr rhywbeth mwy dramatig. Ystyrir bod y gyfres hon o SuperTed o safon wael. Dim ond un gyfres a gynhyrchiwyd, ond nid yw'n eglur pam.

Rhestr penodau

[golygu | golygu cod]

Cyfres 1

[golygu | golygu cod]

Penodau

[golygu | golygu cod]
  1. Superted a Thrysor yr Incas - 1 Tachwedd 1982
  2. SuperTed a'r Pysgotwyr Perlau - 3 Tachwedd 1982
  3. SuperTed a Dihirod y Gofod - 8 Tachwedd 1982

Ffilm Gwasanaeth Cyhoeddus

[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd SuperTed mewn Ffilm Gwasanaeth Cyhoeddus, ynghyd â Smotyn, a'i chwaer Blotch(?). Comisiynwyd y ffilm gan y Swyddfa Gwybodaeth Ganolog, gyda'r teitl "Supersafe with SuperTed". Yn y ffilm, mae SuperTed yn hedfan â thri chymeriad i'r ddaear, er mwyn dysgu i Smotyn sut i groesi'r ffordd yn ddiogel.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Creating your own children's characters", Sunday Times, 10 Ebrill 2005.
  2. SuperTed - Sion Corn; S4C

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]