Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas lledorwedd |
Asana lledorwedd mewn ymarferion ioga yw Supta Padangusthasana neu Bawd mawr y troed,[1][2][3] Caiff ei ddefrnyddio o fewn ioga modern fel ymarferiad i gadw'n heini.
Mae'r enw'n dod o'r Sanskrit सुप्त पादाङ्गुष्ठासन Supta Pādāṅguṣṭhāsana, o सुप्त Supta, "ail-lenwi", पादाङ्गुष्ठ pādāṅṅguṣṭha, "Bawd mawr y troed", a आस āsana, "osgo" neu "siap y corff".[4]
Nid yw'r asana hwn yn cael ei ddisgrifio mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond mae'n ymddangos yn yr 20g am y tro cyntaf. Er enghraifft, mae'n 27fed yng nghyfres gynradd Ioga ashtanga vinyasa.[5]
Os yw'r cefn yn anystwyth neu os yw'r llinynnau'n dynn, gellir ymarfer gyda gwregys neu lastig ioga, yn y ddwy law, wedi'i ddolennu dros y droed.[1]YJ Editors (28 Awst 2018). "Reclining Hand-to-Big-Toe Pose". Yoga Journal.YJ Editors (28 Awst 2018). "Reclining Hand-to-Big-Toe Pose". Yoga Journal.</ref>
Gellir ymarfer yr asana hefyd gyda'r goes fertigol wedi'i chynnal gan golofn neu ffrâm drws, a'r goes arall yn ymestyn allan ar y llawr.[4]