Susan B. Anthony | |
---|---|
Ganwyd | Susan Anthony 15 Chwefror 1820 Adams |
Bu farw | 13 Mawrth 1906 o methiant y galon, niwmonia Rochester |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, amddiffynnwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, llenor, ymgyrchydd hawliau sifil, ffeminist, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Daniel Anthony |
Mam | Lucy Read |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod |
llofnod | |
Ffeminist, swffragét a diwygiwr cymdeithasol Americanaidd oedd Susan B. Anthony (15 Chwefror 1820 - 13 Mawrth 1906) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched. Chwaraeodd ran ganolog a blaenllaw yn yr ymgyrch i gael pleidlais i fenywod, sef yr hyn a elwir heddiw yn 'etholfraint'.
Yn enedigol o deulu o Grynwyr, crefydd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb cymdeithasol, casglodd ddeisebau gwrth-gaethwasiaeth pan oedd yn 17 oed. Yn 1856, daeth yn asiant gwladwriaeth Efrog Newydd ar gyfer Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth America (yr American Anti-Slavery Society).
Fe'i ganed yn Adams ar 15 Chwefror 1820 a bu farw yn Rochester, Efrog Newydd o niwmonia ac fe'i claddwyd yno, ym Mynwent Mount Hope. [1][2][3][4][5][6][7]
Yn 1851, cyfarfu ag Elizabeth Cady Stanton, a ddaeth yn gyfaill a chydweithiwr gydol oes iddi mewn gweithgareddau diwygio cymdeithasol, yn bennaf ym maes hawliau menywod. Yn 1852, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol Menywod Efrog Newydd (New York Women's State Temperance Society) ar ôl i Anthony gael ei hatal rhag siarad mewn cynhadledd dirwestol oherwydd ei bod yn fenyw. Yn 1863, fe wnaethant sefydlu Cynghrair Cenedlaethol y Merched Teyrngar (the Women's Loyal National League), a gynhaliodd yr ymgyrch ddeiseb fwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau hyd at hynny, gan gasglu bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi diddymu caethwasiaeth.
Rhai cerrig milltir yn ei bywyd:
Yn 1872, cafodd Anthony ei harestio am bleidleisio yn ei thref enedigol, Rochester, Efrog Newydd, ac fe'i dyfarnwyd yn euog mewn achos llys a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Er iddi wrthod talu'r ddirwy, gwrthododd yr awdurdodau gymryd camau pellach. Yn 1878, trefnodd Anthony a Stanton i Gyngres yr Unol Daleithiau dderbyn gwelliant ar gynnig, a roddodd, ar ddiwedd y dydd, yr hawl i ferched i bleidleisio.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd. [8]