Suzanne Collins | |
---|---|
Ganwyd | Suzanne Collins 10 Awst 1962 Hartford, Connecticut |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, awdur plant, cynhyrchydd gweithredol, newyddiadurwr, awdur teledu |
Adnabyddus am | The Hunger Games, Gregor the Overlander |
Arddull | ffuglen ddamcaniaethol |
Gwobr/au | Gwobr siopau llyfrau plant, Geffen Award, Christopher Award, Children's Book Award |
Gwefan | http://www.suzannecollinsbooks.com |
llofnod | |
Awdures Americanaidd yw Suzanne Collins (ganwyd yn Hartford, Connecticut, 10 Awst 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol ac awdur plant.
Fe'i ganed yn Hartford ar 10 Awst 1962. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Indiana, Ysgol Gelf Tisch, UDA.[1][2][3][4]
Ymhlith y gwaith mwyaf nodedig a ysgrifennodd y mae The Underland Chronicles a thrioleg The Hunger Games a ddaeth i'r brig yn rhestr The New York Times.
Ganwyd Suzanne Collins yn Hartford, Connecticut i Jane Brady Collins (ganwyd 1932) a Lt Col. Michael John Collins (1931-2003), swyddog Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau a wasanaethodd yn Rhyfel Corea a Rhyfel Fietnam, ac enillodd y Distinguished Flying Cross a'r Seren Efydd. Hi yw'r ieuengaf o bedwar o blant. Fel merch swyddog milwrol, symudodd y teulu'n gyson. Treuliodd ei phlentyndod yn nwyrain yr Unol Daleithiau.[5][6]
Graddiodd Collins o Ysgol Celfyddydau Cain Alabama yn Birmingham (UDA) yn 1980 gyda gradd mewn Celf y Theatr.[7] Cwblhaodd ei baglor yn y celfyddydau o Brifysgol Indiana yn 1985 gyda phrif ddwbl mewn theatr a thelathrebu. Yn 1989 enillodd Collins ei M.F.A. mewn ysgrifennu dramatig o Ysgol Gelfyddydau Tisch, Prifysgol New York.[8][9][10] [11][12]
|archive-url=
requires |archive-date=
(help). Cyrchwyd 13 Mawrth 2023.
|deadurl=
ignored (help)