Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd, ioga Hatha, asanas ymlaciol |
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ioga yw Svastikasana (Sansgrit: स्वस्तिकासन, IAST svastikasana) sy'n asana myfyriol hynafol a gofnodwyd mewn ioga hatha canoloesol, l mae'r iogi'n eistedd gan blethu ei choesau fel teiliwr.
Mewn Sansgrit mae svastika'n golygu addawol; mae hefyd yn enw ar symbol Hindŵaidd hynafol sy'n dynodi ffortiwn da.
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit svastika (स्वस्तिक) sy'n golygu "addawol" a âsana (आसन) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff" mewn ioga. Disgrifir yr asana hwn yn yr 8g yn yPātañjalayogaśāstravivaraṇa ac yn y 10g yn y Vimānārcanākalpa, lle mae'n asana myfyriol.[1]
Swastikasana, Sukhasana, Siddhasana a Padmasana yw'r asanas a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer ymarferion dhyana (myfyrdod) a pranayama (anadl).[2]