Math | tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Abertawe |
Poblogaeth | 17,144 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Massachusetts House of Representatives' 4th Bristol district, Massachusetts House of Representatives' 5th Bristol district, Massachusetts Senate's First Bristol and Plymouth district |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 25.5 mi² |
Talaith | Bristol County |
Uwch y môr | 7 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 41.7481°N 71.1903°W |
Tref yn Bristol County yn nhalaith Massachusetts, Unol Daleithiau America, yw Swansea. Fe'i lleolir wrth geg Afon Taunton, ychydig i'r gorllewin o Fall River, 47 milltir (76 km) i'r de o Boston, a 12 milltir (19 km) i'r de-ddwyrain o Providence, Rhode Island . Mae ganddi boblogaeth o 374,681 (2017)[1].
Enwyd Swansea ar ôl dinas Abertawe yng Nghymru, sef tref enedigol rhai o'r ymsefydlwyr gwreiddiol. Symudodd John Miles, sylfaenydd Eglwys y Bedyddwyr gyntaf yng Nghymru (Ilston, yn 1649), i Abertawe ym 1662/3.[2] Roedd William Brenton wedi prynu'r tir gan Americanwyr Brodorol. Roedd rhannau o'i diriogaeth yn rhan o Rehoboth, Massachusetts yn wreiddiol .[3]