Arian cyfred yw swllt, a arferid ei ddefnyddio yng Nghwledydd Prydain, Iwerddon, Awstralia, Awstria, Unol Daleithiau America, Seland Newydd a nifer o wledydd y Gymanwlad. Mae'n parhau i gael ei ddefnyddio fel arian cyfred yn Tansanïa (Swllt Tansanïa), Cenia, Wganda a Somalia.[1][2][3]
Benthyciad o'r gair Lladin soldus yw 'swllt', a chofnodir y defnydd cyntaf o'r gair yn Gymraeg yn y 13g: Ef a anfones ugein swllt i eglwys Grist yn Dulyn. (Gwaith Gruffudd ap Cynan). Yn yr ieithoedd Celtaidd, ceir: 'sols' (Hen Gernyweg), 'solt' (Hen Lydaweg) a 'saout' (a olygai 'gwartheg' mewn Llydaweg Canol a Diweddar).[4]
Gallai olygu unrhyw werth, ac yng ngwledydd Prydain, yn 1554, daeth i olygu un-ugeinfed (1/20ed) rhan o bunt, sef 12 ceiniog, gan olynu'r testoon. Arferid ei ddynodi gyda'r nodiant mathemategol s neu'r 'symbol 'solidus' / (y slash) e.e. 1/9 oedd "un swllt a naw ceiniog" a 11/– fydai "un-ar-ddeg swllt". Mae'r defnydd o'r symbol solidus yn dal i gael ei ddefnyddio yng Nghenia heddiw, a cheir cynlluniau yn nwyrain Affrica i greu arian cyfred cyffredin, rhwng y gwledydd; yr enw a fathwyd ar ei gyfer yw 'swllt dwyrain Affrica'.[5]
Daeth i ben yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain ar 15 Chwefror 1971, pan newidiwyd i system ddegol. Yr hen ddull, hyd at y degoliad, o nodi'r gwerthoedd oedd:
Roedd darnau eraill ar gael, hefyd, cyn hynny, gan gynnwys:
Olynwyd y swllt ar ddiwrnod y degoliad gyda'r darn pum-ceiniog, newydd.
Rhwng 1901 ac 1825, gwerth y swllt Gwyddelig oedd 13c, a'i lysenw oedd black hog, oherwydd y gelwid y swllt Seisnig yn white hog. Roedd hyn, wrth gwrs yn rhan o ymdrech Lloegr i gyflyru'r Gwyddelod i gredu eu bod yn ddrwg a'r Saeson yn dda.
|deadurl=
ignored (help)