Swyddffynnon

Swyddffynnon
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN692662 Edit this on Wikidata
Cod postSY25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Swyddffynnon.[1] Saif tua 5 milltir i'r gogledd o Dregaron, milltir i'r de o Ystrad Meurig a thua 2 filltir a hanner i'r gorllewin o Bontrhydfendigaid. Rhed afon Teifi heibio i'r pentref.

Ceir Capel y Bedyddwyr yn y pentref, sydd ymhlith yr hynaf yn y sir.

Bu gan y pentref ysgol gynradd ffyniannus - Ysgol Gymunedol Swyddffynnon - a agorwyd yn 1896 ond a gaewyd yn 2006.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 15 Hydref 2024
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.