Sydenham Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1768 ![]() Brynbuga ![]() |
Bedyddiwyd | 5 Awst 1768 ![]() |
Bu farw | 8 Chwefror 1819 ![]() Brompton ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | botanegydd, dylunydd botanegol ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas y Linnean ![]() |
Arlunydd o Gymru oedd Sydenham Teast Edwards (bedyddiwyd 5 Awst 1768 – 8 Chwefror 1819).[1][2] Darluniodd planhigion ac anifeiliaid ar gyfer cyhoeddiadau gwyddonol megis Curtis's Botanical Magazine.
Ganed Edwards yn 1768 ym Mrynbuga, sir Fynwy, yn fab i Lloyd Pittell Edwards, prifathro ac organydd; a'i wraig, Mary Reese, a briodwyd 26 Medi 1765, yn eglwys Llandeilo Gresynni, lle bedyddiwyd Sydenham yn 1768. Roedd Mary Reese yn chwaer i'r Parch. William Reece, curad Llandeilo Gresynni. Roedd eu mab, Richard Reece yn feddyg o fri ac ysgrifennodd nifer o weithiau meddygol. Roedd gan Sydenham Edwards gryn dawn fel drafftsmon a phan oedd yn 11 oed roedd wedi copïo platiau o'r gyfrol Flora Londinensis yn hynod o gywrain. Ymwelodd dyn o'r enw 'Mr. Denman' â'r Fenni yn 1779 a gwelodd ychydig o waith Edwards. Yr oedd Denman yn gyfaill i William Curtis, cyhoeddwr gweithiau botanegol, a sylfaenydd y Curtis's Botanical Magazine; soniodd wrtho am waith y bachgen. Aeth Curtis yn ei flaen i hyfforddi Edwards mewn botaneg a darlunio botanegol.[3]
Cynhyrchodd Edwards weithio ar blatiau ar raddfa aruthrol: rhwng 1787 a 1815 cynhyrchodd dros 1,700 o luniau dyfrlliw ar gyfer y Botanical Magazine yn unig. Darluniodd Cynographia Britannica (1800) (compendiwm gwyddoniadurol o fridiau cŵn yng ngwledydd Prydain), y New Botanic Garden (1805-7), y New Flora Britannica (1812), a The Botanical Register (1815-19). Sefydlodd Edwards yr olaf dan ei olygyddiaeth ei hun yn 1815 ar ôl anghytuno â John Sims, a ddilynodd Curtis fel golygydd. Darparodd hefyd ddarluniau ar gyfer gwyddoniaduron megis Pantologia a Cyclopædia Rees. Cwblhaodd nifer o ddarluniau o barotiaid rhwng 1810 a 1812 a ddaeth i feddiant Edward Smith-Stanley, 13eg Iarll Derby. Etholwyd Edwards yn Gymrawd o'r Gymdeithas Linneaidd yn 1804.[4][5]
Ysbrydolodd gwaith Edwards lawer o ddylunwyr serameg a nifer o grochenwyr mawr y cyfnod, megis Spode.
Claddwyd ef yn Hen Eglwys Chelsea (Yr Holl Seintiau), Llundain.