Dyma restr o symbolau cenedlaethol Cymru. Mae'r rhestr yn cynnwys cymysg o symbolau swyddogol ac answyddogol ac yn cynnwys esboniad a chyd-destun hanesyddol.
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru wedi'i defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655AD ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1] | |
Baner Teyrnas Gwynedd, tywysogaidd Aberffraw, gyda phedwar llew, un ymhob charter.[2] | |
Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig. [3] Cafodd ei gludo i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, ac mae'n cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r safon yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndwr wedi dylanwadu ar y cynllun, gan yr oedd gan y ddau ohonynt lewod yn eu harbeisiau.[4] | |
Mae Baner Dewi Sant, nawddsant Cymru yn cael ei defnyddio weithiau fel dewis amgen i'r faner genedlaethol, ac yn cael ei chwifio ar Ddydd Gŵyl Dewi.[5] | |
Defnyddiwyd Y Ddraig Aur gan Uthr Penddraig[6], Brenin Arthur[7] ac Owain Glyndŵr.[8] Tystiwyd bod y faner hon wedi'i chwifio gan fyddin Glyndwr ym Mrwydr Tuthill yng Nghaernarfon. Hedfanwyd y ddraig trwy gydol ymgyrch Glyndwr dros annibyniaeth i Gymru.[9][10][11] Priodolir y ddraig aur hefyd i'r Brenin Arthur ac mae rhai yn dadlau dros ddraig Gymreig wreiddiol o liw "aur cochlyd".[12] Mae'r faner yn y llun yn seiliedig ar sêl gyfrin Glyndwr.[13] |
Mae'r Ddraig Goch yn symbol o Gymru sy'n ymddangos yn Cyfranc Lludd a Lleuelys, Historia Brittonum, Historia Regnum Britianniae, a'r triawdau Cymreig . Yn ôl y chwedl, Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid Celtaidd o Bowys yn ceisio adeiladu caer yn Ninas Emrys, ond mae'r castell yn dymchwel. Dywedir Myrddin/Ambrosius wrtho i gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod draig goch s'yn cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd (Cymry bellach) a draig wen s'yn cynrychioli Eingl-Sacsoniaid (Seisnig bellach). Mae Myrddin/Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr. [14] Fel arwyddlun, defnyddiwyd ddraig goch wedi cael ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1] | |
Arfbais Traddodiadol Tŷ Aberffraw, Gwynedd ac arfbeisiau personol Llywelyn Fawr.[15] | |
Defnyddiodd Owain Glyndŵr yr arfbais hon tra'n Dywysog Cymru, o 1400.[16] | |
Mae'r arfbais Gymreig, neu Fathodyn Brenhinol Cymru yn seiliedig ar arfbais tywysogion brodorol Cymru o'r 13eg ganrif.[17] |
Mae'r genhinen yn arwyddlun cenedlaethol Cymru.[18] Yn ôl y chwedl, gorchmynnodd Brenin Cadwaldr Gwynedd filwyr Cymreig i adnabod eu hunain trwy wisgo'r genhinen ar eu harfwisg mewn brwydr hynafol.[19] | |
Y genhinen bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru, a wisgir ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yng Nghymru. Gelwir y genhinen ar ôl Sant Pedr.[20] | |
Y Dderwen Digoes, a elwir hefyd y Dderwen Gymreig yw coeden genedlaethol Cymru.[21] | |
Mae’r barcud coch yn cael ei enwi weithiau fel symbol cenedlaethol bywyd gwyllt Cymru.[22] |
Mae'r Gymraeg yn cael ei hystyried yn symbol ac yn eicon o Gymru ac yn cael ei hystyried yn "gonglfaen hunaniaeth Gymreig". Wedi'i siarad ledled Cymru gan tua 750,000 o bobl, mae'n bresennol ar deledu, radio, arwyddion ffyrdd a marciau ffordd.[23]
Anthem genedlaethol draddodiadol Cymru yw Hen Wlad Fy Nhadau.[28] Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James, y ddau yn drigolion Pontypridd, Morgannwg, yn Ionawr 1856.[28][29] Mae'r copi ysgrifenedig cynharaf wedi goroesi ac yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[29]
Ystyrir corau meibion yn symbol Cymreig. Ymhlith aelodau traddodiadol y mudiad mae côr Treorci a chôr Treforys. Yn fwy diweddar, mae llwyddiant Only Men Aloud hefyd wedi chwarae rhan wrth barhau â’r traddodiad hwn. [23]
Ystyrir y delyn Gymreig, a elwir hefyd y delyn deires, yn offeryn cenedlaethol Cymru.[30]
Mae’r llwy garu hynaf y gwyddys amdano o Gymru, sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd, yn dyddio o 1667, er y credir fod tarddiad y llwy bren yn hyn na hynny. [31]
Cafodd yr het Gymreig unigryw, a ymddangosodd gyntaf yn y 1830au, ei defnyddio fel eicon o Gymru o'r 1840au. [32]
O'r 1880au, pan aeth y wisg draddodiadol allan o ddefnydd cyffredinol, cafodd rhai elfennau ohoni eu mabwysiadu fel Gwisg Genedlaethol. O hynny allan fe'i gwisgid gan wragedd mewn digwyddiadau megis gan gorau, yn yr eglwys a'r capel, i dynnu lluniau ac yn achlysurol mewn eisteddfodau . Fe'i gwisgwyd gyntaf gan ferched fel dathliad ar Ddydd Gŵyl Dewi ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r wisg bellach yn cael ei chydnabod fel gwisg genedlaethol Cymru.[33]
Mae'r defnydd o'r plu i symboleiddio Cymru yn ddadleuol iawn, megis ei ddefnydd gan undeb rygbi Cymru.[34][35][36][37]Mae'r bathodyn yn cynrychioli Dug Cernyw neu Etifedd y frenhiniaeth Brydeinig.[38] Mae'n cynnwys plu mewn coron gyda'r geiriau Almaenig Ich dien (Rwy'n gwasanaethu).
Mae sawl tîm cynrychioliadol Cymreig, gan gynnwys undeb rygbi Cymru, a chatrawdau Cymreig yn y Fyddin Brydeinig yn defnyddio fersiwn o'r bathodyn. Bu ymdrechion i gwtogi ar y defnydd o'r arwyddlun at ddibenion masnachol a chyfyngu ei ddefnydd i'r rhai a awdurdodwyd gan "Dywysog Cymru" y frenhiniaeth Brydeinig. [39] |
Hen Wlad Fy Nhadau gradually became accepted as Wales' national anthem – though to this day, it has no official status as such.