Syndrom Tietze | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Blaenolwg o'r cartilagau costocondral ar yr asennau (o Gray's Anatomy) | |
ICD-10 | M94.0 |
---|---|
ICD-9 | 733.6 |
DiseasesDB | 13112 |
MeSH | [1] |
Llid ar y cartilagau costocondral sy'n cysylltu'r asennau ag asgwrn y fron yw syndrom Tietze.[1]
Mae symptomau syndrom Tietze yn cynnwys poen, chwyddo a thynerwch. Er bod y poen fel arfer yn diflannu'n ddigymell, mae'n bosib i'r chwyddo barháu ar ôl i'r tynerwch ddiflannu. Mae'r poen yn gwaethygu drwy symud, peswch, neu disian.[1]
Mae'n bosib camgymryd y poen am drawiad ar y galon, gan ei fod ar flaen mur y frest.[1]
Mae achos syndrom Tietze yn anhysbys.[1]
Defnyddir poenliniarwyr megis ibwproffen a pharasetamol i drin syndrom Tietze.[1]