Llysenw(au) | Team GB | ||
---|---|---|---|
Capten | Ryan Giggs | ||
Mwyaf o Gapiau |
Jim Lewis (11) Mike Pinner (11) | ||
Prif sgoriwr |
Harry Walden (9) Jim Lewis (9) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Prydain Fawr ac Iwerddon 12 – 1 Sweden (Llundain; 20 Hydref 1908) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Prydain Fawr ac Iwerddon 12 – 1 Sweden (Llundain; 20 Hydref 1908) | |||
Colled fwyaf | |||
Bwlgaria 6 – 1 Prydain Fawr (Melbourne, Awstralia; 30 Tachwedd 1956) | |||
Y Gemau Olympaidd | |||
Ymddangosiadau | 8 (Cyntaf yn Pêl-droed yng Ngemau Olympaidd yr Haf: 1908) | ||
Canlyniad gorau | Aur: Pêl-droed yng Ngemau Olympaidd yr Haf: 1908, Pêl-droed yng Ngemau Olympaidd yr Haf: 1912 | ||
Gwefan | Tîm pêl-droed Prydain Fawr (Football at Team GB) |
Tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yw'r tîm dynion sydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd yr Haf. Nid yw'r tîm yn aelod o FIFA; tîm ar gyfer y gemau Olympaidd yn unig ydyw.
Yn dilyn creu Cwpan Byd FIFA cytunwyd y byddai pêl-droed Olympaidd yn gyfyngedig i chwaraewyr amaturaidd yn unig. Erbyn gemau 1992 gallai timau gynnwys chwaraewyr proffesiynol - dim ond iddynt fod o dan 23 mlwydd oed a gallai 3 chwaraewr fod yn hŷn. Er hynny nid yw Prydain Fawr wedi cael ei chynrychioli yn y gemau ers 1960.
Yn dilyn llwyddiant y cais i gael y gemau i ddod i Lundain roedd hawl gan y Deyrnas Unedig i gystadlu yn y twrnamaint pêl-droed. Gwnaeth BOA sef y gymdeithas Olympaidd Brydeinig gyhoeddi ar unwaith ei bod am gystadlu, ond gwnaeth cymdeithas pêl-droed yr Alban wrthod hyd yn oed fynychu'r cyfarfodydd oedd yn trafod y posibiliadau[1] ac fe wnaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru dynnu allan o'r trafodaethau.[2] Gwnaeth y Gymdeithas Pêl-droed Wyddelig a oedd yn cynrychioli Gogledd Iwerddon ddatgan yn 2007 na fyddent yn cefnogi tîm unedig. O ganlyniad, dim ond Cymdeithas pêl-droed Lloegr oedd yn barod i gymryd rhan. Gwraidd y gwrthwynebiad oedd yr ofn y byddai'r cenhedloedd cartref - Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru - yn colli'r hawl i chwarae fel unedau unigol, ac yn cael eu gorfodi i fod yn rhan o dîm unedig Prydeinig.
The Great Britain squad for the 2012 Olympic Games was announced on 2 July 2012, with Ryan Giggs named as captain.[3]
|
|accessdate=
(help)