Math o sgrin (neu 'ddangosydd') grisial-hylif yw TFT LCD (thin-film-transistor liquid-crystal display) a ddefnyddir mewn gliniaduron, y set deledu, dyfeisiadau llaw fel y cyfrifiannell, monitorau cyfrifiaduron, ffonau symudol, taflunyddion, satnafs ayb.[1]
Dechreuwyd gwerthu TFTs yn fasnachol yn 1986. Olynodd yr LCD a ddaeth allan yn 1971[2] [3] a rhagflaenodd yr OLED Organic light-emitting diode display a lansiwyd yn 2003.[4]
Gosodir yr elfennau (neu gelloedd y sgrin) mewn colofnau a rhesi. Gan y gellir gyrru foltedd yn uniongyrchol i bob cell nid yw'r trydan yn amharu a chelloedd eraill. Cysylltir pob colofn a phob rhes i switsis ar ffurf transistor: un ar gyfer pob cell. Gan mai un ffordd yn unig y gall y cerrynt lifo drwy'r transistor, nid yw'r gwefr a roddir i bob picsel, felly, yn cael ei wagio'n llwyr. Mae pob picsel yn gynhwysydd (capacitor) gyda haen o hylif ynysol rhwng yr haenau.
Yn wahanol i'r lled-ddargludydd a wneir o silicon grisialaidd, defnyddir haen denau o silicon amorffaidd ar haen o wydr sy'n haws i'w gynhyrchu, ac felly'n rhatach.
Ychydig iawn o wneuthurwyr dangosyddion TFT LCD sydd, oherwydd y gost anferthol o godi ffatri pwrpasol. Yn y rhestr ganlynol, nodir y math o ddangosydd mewn cromfachau. Ym mhlith y gwneuthurwyr mae: