Tabernacl tun

Math o adeilad eglwysig parod wedi'i wneud o haearn gwrymiog yw tabernacl tun. Fe'u datblygwyd ym Mhrydain yng nghanol y 19g. Ar y dechrau, defnyddiwyd haearn gwrymiog ar gyfer toeau adeiladau yn Llundain ym 1829 gan y peiriannydd sifil Henry Robinson Palmer a ddyfeisiodd y deunydd. Gwerthwyd y patent i Richard Walker a hysbysebodd "adeiladau cludadwy i'w hallforio" ym 1832. Ar ôl 1850, cynhyrchwyd sawl math o adeiladau parod, gan gynnwys eglwysi, capeli a neuaddau cenhadol.

Yn sgil twf cyflym ardaloedd diwydiannol newydd yn ystod y 19g, roedd galw am addoldai y gellid eu codi'n gyflym, ac roedd yr adeiladau parod hyn yn aml yn ddatrysiad priodol. Fe'u hanfonwyd hefyd i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.

Roedd eglwysi tun yn hawdd eu codi, ond roeddent yn ddrud - ar gost gyfartalog rhwng £2 a £4 y sedd. Gostyngodd y prisiau i bron i £1 y sedd tua diwedd y 19g. Hysbysebodd catalog 1901 o David Rowell & Co. eglwys i eistedd 400 o bobl, ei danfon i'r orsaf reilffordd agosaf a'i chodi ar sylfeini a gyflenwyd gan y prynwr, ar gost o £360.

Tabernaclau tun yng Nghymru

[golygu | golygu cod]
Enw Lleoliad Llun Enwad Sylwadau
Eglwys y Bugail Da Bwcle, Sir y Fflint
53°10′22″N 3°03′37″W / 53.172704°N 3.060247°W / 53.172704; -3.060247 (Good Shepherd, Bwcle)
Yr Eglwys yng Nghymru Adeladwyd ym 1894[1]
Eglwys Sant Teilo Doc Penfro, Sir Benfro
51°41′37″N 4°55′41″W / 51.69355°N 4.92805°W / 51.69355; -4.92805 (St Telio's Church, Pembroke Dock)
Yr Eglwys yng Nghymru Adeladwyd ym 1903[2]
Eglwys Sant Pedr Goetre, Castell-nedd Port Talbot
51°35′33″N 3°45′18″W / 51.5924°N 3.7549°W / 51.5924; -3.7549 (Sant Pedr, Goytre)
Yr Eglwys yng Nghymru Adeladwyd ym 1915
Eglwys Genhadaeth Sant Andeas Y Mwynglawdd, Wrecsam
53°02′39″N 3°04′37″W / 53.044186°N 3.076884°W / 53.044186; -3.076884 (Eglwys Genhadaeth Sant Andeas, Wrecsam)
Yr Eglwys yng Nghymru Adeladwyd ym 1892; adeilad rhestredig Gradd II ers 1998[3]
Eglwys y Santes Ann New Hedges, Llanfair Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
51°41′21″N 4°42′31″W / 51.6892°N 4.7087°W / 51.6892; -4.7087 (Eglwys y Santes Ann, New Hedges)
Yr Eglwys yng Nghymru Adeladwyd ym 1928
Neuadd Genhadaeth Penfro, Sir Benfro
51°40′25″N 4°54′21″W / 51.6735°N 4.9057°W / 51.6735; -4.9057 (Mission Hall, Pembroke)
Yr Eglwys Apostolaidd Adeiladwyd yn y 1920au[4]
Eglwys Dewi Sant
(bellach wedi'i dymchwel)
Pensarn, Conwy
53°17′38″N 3°34′47″W / 53.2938°N 3.5797°W / 53.2938; -3.5797 (Eglwys Dewi Sant, Pensarn)
(gynt Yr Eglwys yng Nghymru) Adeiladwyd ym 1880; agorwyd ei amnewid yn 2011[5]
Capel Methodistaidd Rhosnesni, Wrecsam
53°03′22″N 2°58′29″W / 53.0560°N 2.9746°W / 53.0560; -2.9746 (Capel Methodistaidd Rhosnensi)
Methodistaidd Rhoddwyd caniatâd i ddymchwel 2017
Eglwys Efengylaidd Calfaria Rhymni, Caerffili
51°45′35″N 3°16′58″W / 51.7596°N 3.2828°W / 51.7596; -3.2828 (Eglwys Efengylaidd Calfaria, Rhymney)
Efengylaidd

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Ian Smith, Tin Tabernacles: Corrugated Iron Mission Halls, Churches & Chapels of Britain (Penfro: Camrose Organisation, 2004)
  • Alasdair Ogilvie, Tin Tabernacles & Others (Daglingworth: Alasdair Ogilvie, 2009)
  • Nick Thomson, Corrugated Iron Buildings (Oxford: Shire, 2011)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Church of the Good Shepherd" Archifwyd 2019-07-11 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 26 Tachwedd 2019
  2. "St Teilo's Mission Church, Llanion, Pembroke Dock"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019
  3. "Church of St Andrew: A Grade II Listed Building in Minera, Wrexham"; Gwefan British Listed Buildings; adalwyd 26 Tachwedd 2019
  4. "Apostolic Church, Station Road, Pembroke"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019
  5. "St David's Church, South Parade, Pensarn"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019